Bydd Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr yn agor heno gyda Gala Agoriadol yn y pafiliwn yn Llanelli.

Ond mae rhagolygon y tywydd yn wael ar gyfer y bore llawn cynta’ ac yn gymysg ar gyfer yr wythnos wedyn.

Y fantais fawr yw fod y cyfnod cyn y Brifwyl wedi bod yn sych, gan sicrhau nad yw’r ddaear wedi’i thorri lawer ymlaen llaw.

Ac wedi glaw yn gynnar fory, mae disgwyl i bethau wella ar gyfer y prynhawn.

Dyma’r chweched tro i’r Eisteddfod gael ei chynnal yn Llanelli ac mae ar yr un maes â’r tro diwetha’ yn 2000.

Doniau lleol

Yn ôl y trefnwyr, fe fydd y gala yn gyfle i fwynhau “doniau” pobl ifanc o ddalgylch yr Eisteddfod.

Bydd y gala yn cynnwys caneuon o sioeau cerdd boblogaidd fel ‘Nia Ben Aur’, a gafodd ei pherfformio am y tro cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin 1974; ‘Pum Diwrnod o Ryddid’; ‘Penderyn’; ac ‘Er Mwyn Yfory’.

Yn ogystal, bydd disgyblion Ysgol y Strade yn perfformio ‘Grav’, eu teyrnged nhw i’r cawr o Mynyddygarreg.

Cystadlu

Yfory, bydd y cystadlu yn dechrau gyda’r bandiau pres yn uchafbwynt yn y Pafiliwn a chyfarfod coffa i’r Prifardd Gerallt Lloyd Owen yn y Babell Lên.

Fe fydd hynny’n dilyn rownd derynol Talwrn y Beirdd ar y radio – y rhaglen yr oedd wedi ei llywio am fwy na chwarter canrif.

Yfory hefyd y daw’r cyhoeddiad am enillwyr y medalau celf a chrefft.

Canmol pobol leol

Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Elfed Roberts, fod “cefnogaeth a chymorth y bobol leol a’r gwirfoddolwyr wedi bod yn ardderchog dros y ddwy flynedd ddiwethaf.”

Meddai: “Rydym i gyd yn edrych ymlaen am wythnos i’w chofio yn yr ardal.”

Mae trefnwyr yn gobeithio y bydd yr Eisteddfod – un o wyliau celfyddydol mawr y byd – yn denu tua 150,000 o ymwelwyr i ardal Sir Gâr dros y naw niwrnodf.