Elis Dafydd
Elis Dafydd sydd yn dweud bod angen ailystyried lle rhai o’r cystadlaethau eisteddfodol traddodiadol
Y prif seremonïau llenyddol sydd o fwyaf ddiddordeb i mi yn Eisteddfod yr Urdd bob blwyddyn. Mae yna ddyfalu mawr a fydd teilyngdod yn y lle cyntaf, ac wedyn dyfalu mawr o ba fardd/dramodydd/llenor ifanc addawol sydd wedi ennill.
Mae bod ar y Maes ar ddiwrnodau’r seremonïau yn ychwanegu’n arw at y cyffro:
“Ti ’di gweld ‘enw bardd/dramodydd/llenor ifanc addawol’ o gwmpas yn rhywle?”
“Mi ddudodd rhywun wrtha’ i fod ‘enw bardd/dramodydd/llenor ifanc addawol’ wedi cystadlu ond mae o/hi ym Milan ar hyn o bryd yn ôl Twitter.”
“Dw i newydd weld ‘enw bardd/dramodydd/llenor ifanc addawol’ wrth Gaffi Mistar Urdd ond dydi o/hi ddim wedi gwisgo’n hanner digon smart i fod wedi ennill.”
“Dw i ’di clywad fod ‘enw bardd/dramodydd/llenor ifanc addawol’ wedi treulio’r pythefnos dwytha ’ma’n cael gwersi gan ‘enw cyn-enillydd’ ar sut i gerdded drwy gae yn edrych fel ei fod o’n myfyrio’n ddwys am wbath.”
Cip o’r Bala
Ar wahân i hynny, fydda’ i ddim yn cymryd diddordeb enfawr yn beth sy’n digwydd – oni bai ’mod i’n adnabod rhywun sy’n cystadlu neu rywbeth felly.
Ond eto, mae’r Eisteddfod yn ddigwyddiad go arbennig felly pan oedd gen i ffansi diogi am ryw awr neu ddwy bythefnos yn ôl dyma benderfynu gwylio Eisteddfod yr Urdd.
Fe welais i un o’r cystadlaethau llefaru i bartïon. Dyna ichi brofiad poenus. Gwrando arnyn nhw’n gorliwio a chamliwio ac edrych arnyn nhw’n goractio ac yn gwneud y stumiau mwyaf gwallgo’.
Dw i’n cofio trafodaeth am hyn ar Twitter beth amser yn ôl a rhywun yn dadlau fod cystadlaethau llefaru yn gyfle gwych i feirdd gael cyhoeddusrwydd i’w gwaith.
Safbwynt digon teg, ond y broblem ydi nad ydw i hyd yn oed yn cofio pa gerdd glywais i’n cael ei llefaru – y gorliwio a’r goractio ffals ydi’r unig bethau sylwais i arnyn nhw.
Ac mae sawl person yn honni fod clywed ambell i gerdd yn cael ei llefaru mewn eisteddfod wedi difetha’r gerdd dan sylw iddyn nhw’n llwyr.
Sbwylio cerddi
Pam ar wyneb daear fod angen y fath ffalsrwydd wrth lefaru? Dydi Gerallt Lloyd Owen ddim yn mynd i berlewyg wrth ddweud y câi ei wlad ei gledd yn ‘Fy Ngwlad’.
Doedd Iwan Llwyd ddim yn swnio fel ei fod o newydd weld ysbryd wrth ofyn pwy oedd yn dyfod i fyny o’r anialwch wrth adrodd cerdd Steve Eaves, ‘Garej Lôn Glan Môr’.
Ac mae gwrando ar feirdd yn darllen eu gwaith eu hunain mewn nosweithiau fel Gornest Gŵyl Farddoniaeth Tŷ Newydd yn gallu bod yn gwbl anhygoel. Dydi rhywun ddim yn agos at deimlo’r un wefr wrth wrando ar gystadlaethau llefaru Eisteddfod yr Urdd.
Dw i wedi cael fy nghyhuddo yn y gorffennol o fod yn draddodiadwr, ac mae elfen o wirionedd yn hynny, mae’n siŵr.
Dydw i ddim yn gwadu fod adrodd barddoniaeth mewn cystadlaethau’n rhan o’n traddodiad ni, ond nid dal gafael ar bopeth yn bendifaddau ydi pwrpas traddodiad, ond ymhyfrydu yn nhras a llinach ein diwylliant cyfoes ni.
Ac os nad ydi rhyw draddodiad arbennig yn cyfrannu dim at gyfoeth y diwylliant cyfoes hwnnw, yna waeth iddo farw ddim.
Dylai’r ffordd mae pobl yn mynd ati i lefaru mewn cystadlaethau – a bod yn feirniaid ar gystadlaethau o’r fath – newid cyn i’r peth fynd yn fwy amherthnasol a chwerthinllyd nag ydi o’n barod.