Caryl Burke
Caryl Burke fu’n gwylio drama am ddementia yn Neuadd Dwyfor, Pwllheli

Mae’r ddrama hon, sy’n cynnwys cast o bedwar, yn portreadu dynes a’i brwydr â dementia. Wedi’i leoli yn Ne Cymru, mae’r stori yn neidio o’r presennol yn ôl i’r 50au wrth i ni ddarganfod mwy a mwy am y cymeriadau.

Roedd yr hanner cyntaf yn dangos y prif gymeriad Jennifer, neu Jinny, yn y presennol a’i pherthynas gyda’i gŵr Dylan (chwaraewyd gan Sion Emyr), sydd yn helpu hi symud i gartref i’r henoed. Mae’r olygfa agoriadol yn sefydlu’r cymeriadau ac mae’r dechneg o ailadrodd deialog yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol.

Yna gwelwn Jinny’n eistedd mewn caffi yn aros am ei ffrindiau ac mae’i dryswch yn dod yn amlwg wrth iddi siarad â’r gynulleidfa gan ailadrodd y frawddeg “I’m just waiting for my friends, I am. They’ll be here now in a minute”.

Mae Jinny’n mynd ymlaen i drafod ei theulu a’i hieuenctid a sut mae pethau wedi newid. Dysgwn fwy am y cymeriadau mewn ffordd gyfrwys ac mae dryswch Jinny yn amlwg wrth iddi gamgymryd y gweinydd am ei gŵr.

Roedd y rhan gyntaf i’w weld yn statig iawn, gydag ychydig iawn o symud unwaith mae’r tair ohonynt yn eistedd wrth y bwrdd.

Doedd dim llawer yma i ddal sylw’r gynulleidfa, gan nad oedd y deialog yn ddigon cryf i gynnal yr olygfa, gyda’r sgwrs yn llawn innuendo crai oedd yn amlwg yno i ddenu rhywfaint o cheap laughs. Erbyn diwedd y rhan gyntaf, rhyddhad oedd cyrraedd y toriad.

Wedi dweud hynny, roedd yr ail hanner yn llawer cryfach gyda mwy o stori iddi a mwy o ddefnydd o’r llwyfan. Rydym yn neidio nôl i’r 50au a gwelwn dair merch ifanc yn cyfarfod yn y caffi a thrafod y problemau oedd yn wynebu merched ifanc yn Ne Cymru yn dilyn yr Ail Ryfel Byd.

Dylan yw gweinydd yn y caffi, sydd yn cychwyn canlyn â Jennifer wrth iddo’i gweld yno bob wythnos. Roedd yn ddiddorol gweld cychwyn y berthynas, wedi i ni ddysgu am eu bywyd a marwolaeth Dylan yn y rhan gyntaf.

Wrth i ni neidio nôl i’r presennol, mae Dylan (gŵr Jinny) wedi bod yn chwilio amdani ac yn ei chanfod yn eistedd yn Tiggy’s Nightclub – lle’r oedd y caffi yn arfer bod. Teimlad awchlym sydd i’r diweddglo wrth i Dylan geisio’i orau i atgoffa Jinny o’i ffrindiau, ei gŵr a’u marwolaeth.

Mae’r newid sydyn mewn agwedd Jennifer yn effeithiol iawn wrth iddi newid o fod yn annwyl ac yn garedig hefo’i gŵr, i anghofio lle mae hi a phwy sydd hefo hi.

Er bod y newidiadau sydyn yn effeithiol, mae’r dechneg o ailadrodd deialog i gyfleu’r dryswch yn cael ei orddefnyddio ac roedd angen llawer mwy o symud er mwyn cynnal sylw.

Teimlaf mai gwaith mewn datblygiad ydi hwn a bod angen golygu a chwtogi’r sgript. Serch hynny, mae perfformiad Sion Emyr yn sefyll allan. Llwyddodd i roi perfformiad emosiynol, teimladwy a chredadwy fel y gŵr sy’n ceisio’i orau i fod yn amyneddgar wrth weld ei wraig yn dioddef a’r salwch.

Fodd bynnag, er gwaethaf perfformiadau cryf Sion Emyr a gweddill y cast, mae darnau mawr o’r sgript i’w gweld yn llawn clichés ac ymdrechion wan i annog cheap laughs.

Marc: 5/10