Ar raglen Front Row ar Radio 4 yr wythnos hon, galwodd Dafydd Rhys, pennaeth Cyngor y Celfyddydau, am drafodaeth genedlaethol am werth y celfyddydau.

Wel, does dim angen gofyn ddwywaith i fi. Mi wna’i ddechrau’r drafodaeth yn y golofn hon! Ac mae croeso mawr i Lywodraeth Cymru ei defnyddio fel man cychwyn (Helo, Llywodraeth Cymru! Diolch am ddarllen. Mwy o arian i Abertawe plis!).

Nododd Dafydd Rhys fod cyllideb Cyngor y Celfyddydau wedi cael ei thorri o ryw 37% ers 2010. Felly, pan mae’n dweud bod angen trafodaeth genedlaethol, efallai mai ystyr hyn mewn gwirionedd yw fod angen y math o drafodaeth sy’n arwain at fwy o arian.

Ac rwy’n cytuno’n llwyr! A chwarae teg i fi am hynny, o ystyried nad yw Cyngor y Celfyddydau’n fodlon ariannu comedi standyp. Felly rwy’n bod yn hynod ddiduedd drwy gytuno â nhw, er gwaethaf eu diffyg cefnogaeth i minnau’n bersonol.

Dwy ochr i’r ddadl

Yn ogystal â chytuno â’r angen am fwy o arian i’r celfyddydau, rwy’ hefyd yn digwydd bod yn hollol gywir. Yn wrthrychol. A dyma pam:

Mae dwy ochr i’r ddadl: y ddadl gelfyddydol, a’r ddadl ariannol.

Y ddadl gelfyddydol yw fod y celfyddau’n bwysig; yn rhan o’n hunaniaeth fel cenedl hyd yn oed! Heb arian cenedlaethol i’r celfyddydau, byddai’n rhaid dibynnu ar elw ac arian masnachol. Newyddion gwych os hoffech chi weld cant a mil o ffilmiau Marvel, neu sioeau cerdd gyda’r math o blot sy’n caniatáu i’r prif gymeriadau ganu goreuon Atomic Kitten. Ond ddim cystal i rai hoffai weld sioeau arbrofol. Neu sioeau arbenigol. Neu sioeau Cymraeg!

Y ddadl ariannol yw fod pethau pwysig i’w hariannu, a bod Celf yn ddibwys ar y cyfan. Beth am fuddsoddi yn economi’r wlad? Gwell na rhoi siec i ryw gwmni dawns i dalu am eu bws i glyweliad Britain’s Got Talent!

A’r rheswm fy mod i – a Dafydd Rhys – yn llygaid ein lle drwy annog mwy o arian i’r celfyddydau yw fod y ddwy ddadl hyn yn ein harwain at yr un canlyniad.

Y ddadl gelfyddydol? Mwy o arian i’r celfyddydau. Y ddadl ariannol? Dro ar ôl tro, mae gwaith ymchwil yn dangos bod arian cyhoeddus i’r celfyddydau yn creu mwy na gwerth yr arian hynny.

Yn ôl adroddiad y Ganolfan Economeg ac Ymchwil Busnes yn 2020, mae pob £1 sy’n mynd i’r celfyddydau yn creu £5 yn ei dro. A do, mi wnes i ddarllen yr adroddiad. Llawn graffs! Hyfryd!

Mae’r peth yn amlwg, wrth gwrs. Mae creu cyfleoedd i gynhyrchu gwaith celf yn creu swyddi, sy’n creu cyfleoedd am hyfforddiant, sy’n meithrin sgiliau a thalent, sy’n gwella gwerth ariannol gweithlu’r wlad, ac yn y blaen.

Ac mae’n gas gen i’r ddadl hon.

O, mae pob gair yn wir. Ond, ai dyna yw gwerth y celfyddydau mewn difri? Hei, edrychwch! Mae’r Ganolfan ECONOMEG ac Ymchwil BUSNES yn dweud bod y peiriant creu arian yn gweithio’n dda, felly dewch i ni daflu mwy o arian i’r peiriant!

Ych a fi!

Ddylen ni ddim bod yn mesur gwerth y celfyddau drwy faint o arian mae’n ei gynhyrchu. Achos mae llawer o waith sydd o werth diwylliannol amlwg yn creu llai o elw na llawer o waith sydd o werth isel iawn.

Beth yw’r ffilmiau drytaf yn hanes y byd? Ffilm Star Wars yn 2015, ffilm Jurassic World yn 2018, ffilm Star Wars arall yn 2019, ffilm Pirates of the Caribbean yn 2011, ac Avengers: Age of Ultron yn 2015.

Allwch chi weld beth sydd gan y ffilmiau hyn yn gyffredin?

Cywir! Maen nhw i gyd yn erchyll!

Nid bod pob ffilm ddrud yn wastraff amser i’r un graddau â’r rhain, ond nid y ffilmiau mwyaf tebygol o wneud elw yw’r ffilmiau mwyaf tebygol o fod o werth diwylliannol.

Os yw hyn yn swnio’n snobyddlyd, cofiwch! Rwy’n gweithio fel standyp; math o berfformio sydd ond yn bodoli i wneud arian!

Crefft werth chweil

Rwy’n gweithio’n galed i greu gwaith gwerth chweil; sioeau comedi soffistigedig, cadarn, yn defnyddio technegau llenyddol i gyfleu eu themâu mewn ffordd gydlynol a boddhaus, ond heb fod yn amlwg chwaith. Rhaid i’r sioeau fod yn llawn jôcs wedi’r cyfan. Os yw’r gynulleidfa’n sylwi mwy ar y themâu na’r hiwmor, yna mae fy nghrefft wedi methu. Mae chwerthin mor hanfodol i sioe standyp â’r gynghanedd i englyn.

Ac ar ôl hynny i gyd, gellir mesur llwyddiant y gwaith drwy weld faint o arian a wnaed ar y bar gan y theatr yn yr egwyl.

Mewn gwirionedd, pwysigrwydd celf i fi yw bod un gwaith yn arwain at y llall. Awdur yn ysgrifennu llyfr sy’n ysbrydoli awdur arall i ysgrifennu rhywbeth tebyg – neu i ysgrifennu rhywbeth cwbl wahanol. Cerddor yn clywed cân, ac yn gweld cyfle i ddefnyddio techneg newydd mewn cyd-destun arall.

Ac mae’n gweithio rhwng gwahanol gyfryngau hefyd. Mae’r dylanwadau ar fy sioeau comedi i’n cynnwys sioeau cerdd, rhaglenni realiti, podlediadau, dramâu, celfyddydau perfformio, nofelau, straeon byrion, caneuon, gemau cyfrifiadur, sioeau consurio.

O’r rhain i gyd, rydw i wedi dysgu ffyrdd di-ri o gyfleu syniadau. Y mwyaf o gelfyddydau a ariennir, y mwyaf o botensial sydd i ysbrydoli gwaith y dyfodol.

Heb sôn am ddim byd arall, mae arian cyhoeddus yn hanfodol i gynyrchiadau Cymraeg.

Ond os hoffai Gyngor y Celfyddydau ariannu fy sioe gomedi nesaf, wna’i ddim gwrthod chwaith! Mae’n syniad gwych. Fersiwn o Age of Ultron wedi’i hadrodd drwy ganeuon Atomic Kitten…


Ydych chi’n cytuno â Steffan? Gadewch i ni gyfrannu at y drafodaeth genedlaethol yma ar golwg360