Sefydlu côr Only Girls Aloud yn y gorllewin

“Gyda chymaint o ddiddordeb gan bobol ifanc yng Ngorllewin Cymru, roedd hwn yn teimlo fel y cam naturiol nesaf i ni”

Y Wobr Gerddoriaeth Gymreig am wneud “noson arbennig iawn” yn Llais

“Mae’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn ymwneud â hybu’r albymau gorau o Gymru bob blwyddyn,” medd y cyd-sylfaenydd Huw Stephens

Y prosiect Cymraeg-Forocaidd a heriau person cwiar i garu’r person maen nhw’n eu caru

Mae Ayoub Boukhalfa wedi cydweithio â Ffion Campbell Davis ac Alexander Comana i greu “Moroccan/Cymraeg”

Dangos uchafbwyntiau Gŵyl y Dyn Gwyrdd ar S4C am y tro cyntaf

“Mae Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn fyd-enwog, oherwydd y ffaith ei bod yn ŵyl fawr annibynnol, sy’n beth prin”

Clwb Ifor Bach yn bwriadu cynyddu maint y safle

Byddai’r ailddatblygu’n creu gofod newydd â lle i 500 o bobol, a byddai’n cynnwys ystafell arall â lle i 200 o bobol

Tlws y Cerddor i Lowri Mair Jones o Bontypridd

Y dasg eleni oedd cyfansoddi darn wedi’i ysbrydoli gan alaw neu alawon gwerin Cymreig, hyd at wyth munud

Pedair yn ennill Albwm y Flwyddyn 2023

Pedair yw prosiect diweddaraf Siân James, Gwyneth Glyn, Gwenan Gibbard a Meinir Gwilym

Cofio Sinead O’Connor

Ryland Teifi

Mae’r gantores Wyddelig yn hedfan fry uwchben diwylliant pop gyffredin, medd Ryland Teifi, sy’n byw yn Iwerddon ers sawl blwyddyn bellach

Prosiect Pum Mil yn trawsnewid Cwt Band Seindorf Arian Llanrug

Lowri Larsen

Llew Jones, bachgen ifanc sy’n cael gwersi gan arweinydd y band, gafodd y syniad yn wreiddiol

Cyhoeddi rhestr fer gyntaf Brwydr y Bandiau Gwerin yr Eisteddfod a Radio Cymru

Cafodd y rhestr ei chyhoeddi ar raglen radio Aled Hughes heddiw (dydd Iau, Gorffennaf 27)