Mae cyrraedd rhestr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn “uchafbwynt” i’r holl waith aeth mewn i albwm gyntaf ei brosiect unigol, yn ôl y cerddor Lewys Wyn.
Deuddeg gan Sywel Nyw yw un o’r pymtheg albwm sydd wedi cyrraedd y brig yn y ras am y wobr eleni.
Mae’r wobr yn dathlu ac yn amlygu’r gerddoriaeth newydd orau yng Nghymru, ac mae’r rhestr fer eleni yn cynnwys artistiaid fel Gwenno, Breichiau, Hir, Adwaith a Papur Wal.
Roedd cael gwybod ei fod e wedi cyrraedd y rhestr fer gyda’r prosiect, sy’n cynnwys deuawdau gydag artistiaid fel Mr, Gwilym ac Endaf Emlyn, yn sioc ond yn deimlad neis, yn ôl y canwr.
“Dyma’r albwm gyntaf erioed i fi’i chael ar y wobr yna hefyd,” meddai’r cerddor, sy’n brif leisydd i’r Eira hefyd,” meddai.
“Mae o’n rywbeth sy’n uchafbwynt i’r holl waith sydd wedi mynd mewn i’r holl albwm. Roedd o’n deimlad grêt.
“Mae’r rhestr wedi ymestyn, mae yna bymtheg arno fo tro yma, sy’n dangos eu bod nhw wedi cael tough time yn dewis y rhestr.
“Ond fel ti’n gweld o’r rhestr, mae o’n gyfoethog iawn mewn ffordd. Mae yna lwyth o amrywiaeth ac mae yna albymau hollol wych arno fo.
“Mae hi’n rhestr gref iawn.”
Mae Lewys Wyn yn parhau â’r sgrifennu ar gyfer prosiect Sywel Nyw, ac mae ganddo fe gân yn barod i’w rhyddhau tua’r Nadolig.
“Mae gen i dipyn o syniadau ar y go, felly jyst parhau efo’r momentwm gobeithio a jyst rhyddhau mwy o ganeuon efo artistiaid gwych eraill dros y misoedd nesaf,” meddai.
Gan fod Lewys Wyn wedi cydweithio â naw artist arall ar yr albwm, mae’n braf cael rhannu’r llwyddiant, meddai.
“Dwn i ddim os fydd pob un ohonyn nhw’n cael dod i’r seremoni, ond fe wnâi drio fy ngorau glas i gael y rhan fwyaf ohonyn nhw draw yna beth bynnag achos yn amlwg maen nhw wedi bod yn rhan o’r prosiect yma gymaint â fi, mewn ffordd.
“Mae o’n wobr iddyn nhw gymaint ag ydy o i fi.”
‘Mewn cwmni da’
Mae blwyddyn lwyddiannus Papur Wal yn parhau hefyd, wrth i’w halbwm gyntaf, Amser Mynd Adra, gyrraedd y rhestr fer.
“[Mae’n] grêt yn amlwg, i gael dy roi ochr yn ochr ag enwau anferthol fel Cate le Bon, Manics a Gwenno, sydd wedi cael ei henwebu am Mercury Prize, yn ogystal â phobol sydd ar yr un label â ni – Adwaith, a Breichiau Hir – a Sywel Nyw sy’n chwarae efo ni hefyd,” meddai Gwion Ifor, sy’n canu ac yn chwarae’r gitâr fas gyda’r band, wrth golwg360.
“Cwmni da iawn.”
Bydd yr enillydd yn derbyn gwobr ariannol o £10,000, felly faint o hwb fyddai gwobr felly i’r band?
“Help mawr! Rydyn ni’n eithaf tlawd â bod yn onest, fysa fo’n class,” meddai Gwion Ifor wedyn.
“Dydyn ni ddim yn mynd i get ahead of ourselves ormod chwaith, ond mae o’n grêt jyst bod yna ar y rhestr fer a chael y cyfle i fynd i’r noson.
“Mae hynny’n hen ddigon i ni, dydyn ni ddim yn disgwyl ennill na dim byd!”
Mae’r band wedi dechrau hel syniadau ar gyfer ail albwm, a dyna fydd yn cael y flaenoriaeth ganddyn nhw dros fisoedd y gaeaf.
“Does gennym ni ddim gymaint o gigs ar y funud, mae Ianto [Gruffydd] a Guto [Rhys Huws] yn byw yn y gogledd ar y funud felly mae’n anoddach dod at ein gilydd yn amlach rŵan.
“Oherwydd hynny rydyn ni’n bwriadu cymryd step yn ôl ar ôl haf prysur i ganolbwyntio mwy ar sgrifennu, mae’r cogs yn dechrau troi ar gyfer ail albwm rŵan a gobeithio y bydd dipyn o honno wedi cael ei recordio’n fuan i ni drio cael honna on it’s way.”