Bydd Gŵyl Gerallt yn cael ei chynnal yn Aberystwyth y penwythnos nesaf (Hydref 14 ac 15), gyda deuddydd o arlwy llenyddol.

Cafodd yr ŵyl, fydd yn cael ei chynnal yn y Stiwdio Gron yng Nghanolfan y Celfyddydau, ei sefydlu gan Gymdeithas Gerdd Dafod Barddas er cof am Gerallt Lloyd Owen a’r nod yw dathlu barddoniaeth.

Ymryson y Beirdd rhwng tîm staff Prifysgol Aberystwyth a thîm o gyn-fyfyrwyr fydd yn dechrau’r ŵyl ar y nos Wener, gyda sawl Prifardd yn eu plith.

Y Prifardd Tudur Dylan Jones fydd yn sedd y Meuryn, a bydd Mererid Hopwood, Hywel Griffiths, Eurig Salisbury a Gwenallt Llwyd Ifan ar dîm y staff.

Gruffudd Antur, Twm Morys, Enfys Hatcher a Llion Jones fydd yn eu herio o dîm y cyn-fyfyrwyr.

‘Lleisiau’ yw thema’r ŵyl eleni, a bydd rhaglen o ddigwyddiadau amrywiol ar y dydd Sadwrn i gyd-fynd â’r thema.

Bydd rheiny’n cynnwys sesiwn ‘Lleisiau’r Gorffennol’ yng nghwmni’r Prifardd Llŷr Gwyn Lewis, Dr Alaw Mai Edwards a D. Geraint Lewis yn trafod gweithiau mawrion y gorffennol gyda chyfle i glywed clipiau sain o rai o’r lleisiau hynny.

‘Cynyddu mwynhad plant’

Ynghyd â hynny, bydd sesiwn ‘Lleisiau’r Dyfodol’ gydag Aneirin Karadog, cyn-Fardd Plant Cymru, a Casi Wyn, y Bardd Plant presennol.

Bydd cyfle i fwy o blant blynyddoedd 3 i 6 yr ardal gymryd rhan mewn gweithdy am ddim gyda Casi Wyn am 10 o’r gloch fore Sadwrn.

“Braint yw cael parhau i gefnogi Barddas trwy gynnig arlwy i’r ifanc yng Ngŵyl Gerallt eleni,” meddai Leusa Llewelyn, Cyfarwyddwr Artistig Llenyddiaeth Cymru, sy’n arwain cynllun Bardd Plant Cymru.

“Nod cynllun Bardd Plant Cymru yw cynyddu mwynhad plant a phobol ifanc o farddoniaeth a’u grymuso trwy greadigrwydd, ac rwy’n ffyddiog y bydd plant Ceredigion wrth eu bodd yn barddoni gyda Casi.

“Rydym yn edrych ymlaen yn arw at weld beth ddaw o’r gweithdai!”

Bydd Barddas yn lansio dwy gyfrol newydd yn yr ŵyl – Cynghanedd i Blant, sydd wedi’i golygu gan Mererid Hopwood, ac Anwyddoldeb, sef casgliad cyntaf Elinor Wyn Reynolds o’i cherddi.

Fe fydd Mererid Hopwood yn holi Esyllt Maelor a Llŷr Gwyn Lewis, Prifeirdd Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion, hefyd, a bydd Twm Morys, Idris Reynolds, Meinir Mathias ac Iestyn Hughes yn trafod y berthynas rhwng y llais a’r llun.

Am fwy o wybodaeth neu i brynu tocyn ewch i wefan Canolfan y Celfyddydau neu ffonio 01970 623232.

Yr Amserlen