Mae hi wedi bod yn “dipyn bach o sioc” gweld ymateb mor gryf i adfywiad Nyth Cacwn dros y gorllewin, yn ôl cyd-awdur y gyfres.
Er i’r sioe ddenu 1,000 o gynulleidfa yn ystod wythnos yr Eisteddfod, ac er bod dros 30 mlynedd wedi pasio ers i’r gyfres gomedi wreiddiol fod ar S4C, mae pob tocyn i daith hydref Nôl i Nyth Cacwn wedi diflannu ddiwrnodau ar ôl iddyn nhw gael eu rhyddhau.
Erbyn i’r daith ymweld â Chrymych, Caerfyrddin a Theatr Felin-fach, bydd 1,000 arall wedi gweld y ddrama.
Dydy Euros Lewis, cyd-arweinydd y prosiect, ddim yn siŵr beth yw’r gyfrinach i’w phoblogrwydd oesol.
Mae yna rywbeth yn y berthynas rhwng iaith, diwylliant a chymdogaeth sy’n cael ei grisialu yn Nyth Cacwn, meddai, ac er mai yntau ac Ifan Gruffydd oedd awduron y gyfres wreiddiol, dydyn nhw’n methu rhoi eu bys ar yr union reswm.
“Be sy’n rhyfedd, o ran y gyfres – roedd y gyfres gyntaf yna mor boblogaidd yn ôl yn 1989, roedd y ffigurau gwylio mor uchel ac S4C yn eu doethineb yn penderfynu anwybyddu hynny a beth bynnag oedd eu rhesymau nhw, mae’r gynulleidfa wedi para,” meddai Euros Lewis wrth golwg360
“Byddet ti’n disgwyl y byddai’r gynulleidfa yna’n ryw fath o farw ma’s ar draws 30 mlynedd, ond be’ sydd wedi digwydd yw bod e wedi mynd o genhedlaeth i genhedlaeth.”
Mae’r rhaglen mor boblogaidd ag erioed ymysg cynulleidfaoedd ifainc, ac mae Euros Lewis wedi dod ar draws sawl person ifanc sy’n medru dyfynnu’r rhaglen air am air.
“Roeddwn i’n meddwl pwy ddiwrnod bod yna rywbeth i gymdeithasegwyr iaith a diwylliant i edrych arno fe’n fan hynny, dw i’n credu – sef pam bod rhywbeth sy’n perthyn i 30 mlynedd yn ôl [mor boblogaidd nawr?].
“Roedd e’n gyfoes i 30 mlynedd yn ôl ond wedi’i seilio ar rywbeth sy’n batrwm go sylfaenol o fewn cefn gwlad, sef fferm fach deuluol.
“Fferm fach deuluol sydd ddim yn fferm fawr lewyrchus a dyw hi ddim yn fferm sydd ar ymyl y dibyn, ac eto yn y lle yna mae’r rhan fwyaf o ffermydd teuluol heddiw – mae yna heriau cyson, addasu cyson, ffeindio’r ffordd ymlaen, a chymaint o dyndra yn y sefyllfa yna.
“Mae rhywun yn meddwl beth yw’r peth sy’n rhoi apêl oesol sy’n golygu bod yna blant a phobol ifanc heddiw yn ymgolli am hanner awr y bennod?
“Dw i yn crafu fy mhen, dw i’n credu bod yna rywbeth sylfaenol bwysig am natur iaith a diwylliant a pherthynas iaith a diwylliant. Y ddeinameg hollbwysig yw cymdogaeth.
“Mae yna rywbeth ym mherthynas y tair elfen yna, a rhyw ffordd neu’i gilydd mae Nyth Cacwn wedi crisialu hynny ac mae hwnna’n trosglwyddo.
“Mae cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth yn cysylltu gydag e.
“Ar bapur, fe ddylai’r gyfres yma wedi mynd yn angof o fewn blwyddyn neu ddwy, o fewn deng mlynedd fan bellaf.
“Mae yna ryw gyfrinach, ac er mai Ifan a fi wnaeth awduro’r peth, dydyn ni ddim yn deall e.”
‘Siapio cymdeithas’
Mae Euros Lewis wedi bod yn canolbwyntio ar ddeinameg y theatr o fewn cymdogaethau Cymraeg gwledig ers sawl blwyddyn, ac wedi bod yn ystyried beth yw perthnasedd y theatr i hyfywedd cymunedau.
Ac mae’n dweud bod y galw am docynnau Nôl i Nyth Cacwn yn ystod wythnos yr Eisteddfod yn Nhregaron a’r brwdfrydedd dros daith yr hydref yn cadarnhau hynny ymhellach.
“Mae’r galw mawr hwn yn dweud rhywbeth pwysig i ni o ran y theatr o fewn ein cymdogaethau,” meddai.
“Yn yr her barhaus o greu ac ail-greu cymdeithas, mae theatr yn egni cynhenid ac ynni cynaliadwy o bwys mawr.
“Mae yna egni real sy’n gwneud rhywbeth [mewn theatr], sydd yn y broses yma o siapio cymdeithas. Nid ryw gymdeithas hen ffasiwn sy’n perthyn i’r gorffennol, ond y gymdeithas yma nawr sy’n wynebu’r holl broblemau.
“Does gen ti ddim ffordd well o wneud hynny na thrwy egni theatr.
“Roedd cael yr ymateb yna a fwy neu lai 1,000 o docynnau wedi mynd mewn hanner awr [ar gyfer y sioe wythnos yr Eisteddfod], mae hwnna’n cadarnhau bod y syched yna am theatr yn real iawn.”