Bob hyn a hyn mi fydd Golwg yn codi’r wal dalu – pay wall – ar un o straeon y cylchgrawn. Felly ar drothwy ymweliad yr Eisteddfod â Thregaron, dyma gyfle i bawb ddarllen hanes un o sioeau mwyaf poblogaidd Ceredigion…
Un o straeon mawr ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â Thregaron yw gwerthiant anhygoel tocynnau i weld drama lwyfan sy’n digwydd oddi ar y maes.
Fe werthodd holl docynnau Nôl i Nyth Cacwn, drama lwyfan yn seiliedig ar gyfres deledu boblogaidd o 1989 gyda’r digrifwr enwog, Ifan Gruffydd, mewn cwta hanner awr ar un bore nôl ym mis Mehefin.
Er mai dim ond un gyfres o Nyth Cacwn a fuodd yn wreiddiol, mae hi wedi cael dilyniant mawr dros y degawdau, wrth i bobol ei mwynhau ar fideo a DVD.
Ifan Gruffydd, neu ‘Ifan Tregaron’, oedd seren y gyfres, yn portreadu ‘William’ y gwas. Enw’r ffarm ar y gyfres oedd ‘Nyth Cacwn’. Mae’r digrifwr, sy’n ddiddanwr enwog ar deledu ers canol yr 1980au, hefyd yn amaethwr, er ei fod wedi hanner ymddeol o waith ei fferm yn ardal Tregaron ac yntau bellach yn 70 oed.
“Beth sydd wedi digwydd yw fideos a DVDs – oni bai amdanyn nhw, fydden ni ddim le’r ‘yn ni,” meddai wrth Golwg. “Roedd pobol wedi eu tapio nhw. Ro’n i’n cael ffîd-bac ofnadw am Nyth Cacwn pan oeddwn i’n mynd i gyngherddau. Mae pobol wedi ei phasio hi lawr o un genhedlaeth i’r llall – dwy, dair cenhedlaeth. Roedd plant yn dod lan ata i o bobman, ac yn adrodd darnau ohoni.
“Mae pobol yn dweud wrtha i: ‘O, mae’r plant yn dod adre o’r ysgol ac maen nhw’n gwrando ar Nyth Cacwn’. Doedd hi ddim yn gyfres a oedd wedi cael ei gwneud ar gyfer plant, ond ieuenctid sy’n gyrru’r momentwm. Hwnna sy’n grêt amdani hyd heddiw. Pobol ifanc sydd am fynd i fod yn y gynulleidfa, dw i’n gwybod hynna. Mae’n dal i fod yn rhywbeth eiconig iawn gyda’r bobol ifanc.
“Fel cast, ry’n ni wedi baby-sitio mwy o blant Cymru na neb yn y wlad, achos mae cynifer o rieni wedi dweud wrtho ni: ‘Os ni mo’yn llonydd gan yr hen blant, ni jyst yn rhoi Nyth Cacwn mhlân’.”
Ac nid dim ond yng Ngheredigion y bu’r gyfres yn llwyddiant. “Ges i sioc,” meddai. “Mynd i Eisteddfod Llanrwst dair blynedd yn ôl, a chynifer o ogleddwyr oedd yn dod ata i a siarad am Nyth Cacwn. Synnes i.”
Yn wreiddiol fe drefnwyd dwy sioe at nos Fercher yr Eisteddfod ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid, ac fe werthodd y tocynnau hynny fel slecs. Roedd digon o bobol wedi gadael eu henwau am docynnau wrth gefn i lenwi noson arall.
“Roedd yn rhaid i ni ffeindio mas a oedd pawb ar gael ar gyfer nos Iau, a dyna fe,” meddai Ifan Gruffydd. “Mewn ffordd, roedd 1,000 o docynnau wedi mynd mewn hanner awr.
“Do’n i ddim wedi disgwyl gymaint o ymateb i’r peth.”
Roedd y diddanwr yn 37 oed pan ffilmiwyd y gyfres yn wreiddiol, a’i gymeriad, William y gwas, i fod yn ei ugeiniau. Ffilmiwyd y gyfres wreiddiol ar fferm laeth Bryn Bala ger Clarach, i’r gogledd o Aberystwyth.
Ar ddiwedd yr unig gyfres o Nyth Cacwn, roedd Delyth y ferch wedi dianc o’i pharti dyweddïo, ac yn eistedd yng nghar y gwas. Gyda’r ddrama lwyfan yn dychwelyd i’r ffarm 30 mlynedd wedyn, fe gawn ni wybod beth yw hanes pawb, a oedd yna ryw berthynas rhwng Delyth a William y gwas, ac ai Delyth, neu bwy, sy’n berchen ar y ffarm heddiw…
Bydd cyfle i bobol fwynhau clipiau o’r gyfres wreiddiol yn ystod rhan gyntaf y ddrama yn y Bont, cyn ailymweld â fferm Nyth Cacwn fel mae hi heddiw yn yr ail hanner.
Dim ond Ifan Gruffydd a Delyth Davies (Hopkins yn 1989) a fydd ar y llwyfan o blith y cast gwreiddiol. Er tristwch, bu farw un o’r actorion gwreiddiol, John Phillips (cyn-ysgolfeistr a ddaeth yn enwog yn y cyfnod am ei bortread o’r ymgyrchydd D J Williams) sef y cymeriad ‘Einon’, dair blynedd ar ôl i’r gyfres fod ar y teledu.
“Mae pobol yn disgwyl bod gyda ni ryw Einon,” meddai Ifan Gruffydd, “ond dy’n ni ddim yn ail-greu hen gymeriadau, achos dw i ddim yn meddwl ei fod yn gweithio. John Phillips oedd e.”
Cymeriad arall oedd Herbert Thomas y cymydog, a oedd â diddordeb yng nghymeriad y fam. “Roedd y ferch yn meddwl mai diddordeb oedd gyda fe yn y ffarm,” meddai Ifan Gruffydd, “mai edrych ar y twlc oedd e fwy na dim.”
Y bartneriaeth euraid
Ifan Gruffydd ac Euros Lewis sydd wedi cyd-sgrifennu sgript Yn Ôl i Nyth Cacwn, a nhw sgrifennodd y gyfres wreiddiol.
Mae Ifan yn dwwyn i gof achlysur yn Theatr Felin-fach i ddathlu’r gyfres wreiddiol yn 1989. “Fi’n cofio eistedd yna, a’r gynulleidfa erioed wedi ei gweld cyn hynny a meddwl ‘waw’, yn gweld pobol yn enjoio hi,” meddai. “Fi’n cofio troi at Euros, a dyma ni’n dweud: ‘Ry’n ni wedi tapo mewn i ryw gyfrinach cefn gwlad fan hyn.’ Roedd pobol jyst wedi cydio yn y peth stret-a-wei.”
Nhw oedd y bartneriaeth sgrifennu ar ei sioe boblogaidd ar S4C, Ma’ Ifan ’Ma.
“Mae Euros yn wych,” meddai. “Fi’n edrych ar y sgript hyn, ac mae yna gymysgedd o jôcs ni’n dou. Mae e’n wych ar one-liners, ac ar chware ar eiriau. Falle fy mod i’n sgrifennu ryw gomedi mwy amlwg, ac mae e’n gallu bod yn llawer mwy cryptig, a gweithio jôc allan sydd yn llawer mwy clefar. Mae fy hiwmor i lawer mwy amlwg.”
Roedd Nyth Cacwn yn cael ei ffilmio o flaen cynulleidfa, ac fe wnaeth Ifan Gruffydd sawl comedi sefyllfa ar deledu fel Y Ferch Drws Nesa ac Os Byw ac Iach yn y 1990au. “Ond cyngherddau dw i wedi eu gwneud, pethe fel Ma’ Ifan ’Ma, Noson Lawen, pethe fel’na,” meddai. “Dw i ddim wedi gwneud drama lwyfan ers dyddiau ffermwyr ifainc.”
Dair blynedd yn ôl, penderfynodd Euros Lewis ddangos cyfres wreiddiol Nyth Cacwn yn Felin-fach, i ddathlu’r 30 mlwyddiant. “Roedd yr un peth wedi digwydd,” meddai Ifan Gruffydd, “a Felin-fach yn dweud: ‘Allen ni fod wedi gwerthu dwy nosweth’.”
Dyna pryd y soniwyd gyntaf am atgyfodi Nyth Cacwn at Eisteddfod Tregaron a oedd i fod digwydd yn 2020. “Ac mi ofynnes i: ‘Pe baen ni’n neud ryw follow-up beth sydd wedi digwydd yn Nyth Cacwn, beth chi’n meddwl?’ a dyma bawb yn dweud ‘ie!’ ‘ie!’” meddai Ifan Gruffydd.
Beth yw cyfrinach y gyfres, felly? “Mae pawb â’i hanes, pawb â’i stori am ryw weision ffermydd… fi’n cofio un boi o Benrhyn-coch yn dweud wrtho i: ‘Bob tro ro’n i’n gwylio’r gyfres, do’n i ddim y teimlo fy mod i’n gwrando arnoch chi ar deledu. Ro’n i’n teimlo fy mod i’n dod atoch chi ar y ffarm.’
“Dw i wedi cael fy magu yng nghefn gwlad, yn byw yng nghanol ffermwyr, wedi ffermio fy hunan. Fi’n credu achos fy mod i wedi sefyll yng nghefn gwlad, mae gyda fi syniad da pwy fath o adloniant mae’r gynulleidfa sydd o’m hamgylch i mo’yn. Dyna pam aethon ni ati i greu Nyth Cacwn, yn ei gweld yn rhan o ethos cefn gwlad yr oeddwn i’n gyfarwydd â hi.”
Siom yr un gyfres
Roedd yna gryn siom ar ôl i S4C ddatgan na fydden nhw’n comisiynu ail gyfres o Nyth Cacwn yn niwedd yr 1980au.
“Ro’n i’n gwybod bod yna rwystredigaeth ofnadw gyda phobol achos roedd pobol bron iawn yn fy meio i,” meddai Ifan Gruffydd. “Doedd e ddim lan i fi. Roedd rhaid i ni fod wedi’i ’neud hi yn y ddwy, dair blynedd wedyn achos oedran rhai pobol ac oedran finne a phawb. Os oeddech chi wedi colli’r eiliad, roeddech chi wedi ei golli.”
Mae’n honni bod comisiynydd wedi dweud wrtho ddeng mlynedd wedyn y byddai e wedi gofyn am ail gyfres pe bai yn y swydd ar y pryd.
“Dim ond un gyfres gelon ni,” meddai Ifan Gruffydd. “Wnaethon ni sgwennu ail gyfres… roedd y gyfres gynta’ wedi bod mor llwyddiannus, wedi bod yn y top five am chwe wythnos, ac yn rhif 1 am bron i bythefnos. Dw i’n cofio Huw (Jones, cyn-Brif Weithredwr S4C) yn dweud wrtho ni: ‘Dechreuwch sgwennu’n strêt’.
“Ond fuodd newid yn y top yn S4C, a newid comisiynwyr. Yn sydyn reit, gafodd ei thynnu. Roedd lot o stwff adloniant yn cael ei wneud ar y pryd, C’mon Midffîld, sitcoms, ac roedd lot o sioeau gennyf i, Gari (Williams), Caryl (Parry Jones)… dechreuodd Heno yn Abertawe, ac arian yn cael ei roi i mewn fyn’na. Tynnwyd lot o’r plyg ar stwff cefen gwlad. Yn sydyn reit, roedd cefn gwlad ddim cweit beth oedden nhw mo’yn.”
Mae Ifan Gruffydd yn ofni bod yna ragfarn yn bodoli tuag at y gynulleidfa gefn gwlad o ran agweddau S4C tuag at ei gynnyrch adloniant.
“Mae’r gynulleidfa Gymreig yng nghefn gwlad yn barod, mae hi yna, mae hi wedi bod yna ers blynyddoedd,” meddai. “Heb y gynulleidfa cefn gwlad, byddwn i’n dweud – a fydde S4C i gael? Efallai eu bod nhw’n rhoi pwyslais ar gefn gwlad… mae gyda chi raglenni fel Cefn Gwlad, a Ffermio sy’n cael peak time. Mae yn cael ei le. Ond mewn adloniant, falle bod yr hen ethos yma o feddwl mai rhyw idiots mewn welingtyns sydd yng nghefn gwlad.”
Mae Ifan Gruffydd yn awyddus i ddiolch ar goedd i Theatr Felin-fach am werthu’r tocynnau ar ran Theatr Troed-y-rhiw. “Nhw sydd wedi gwneud y donkey work gyda’r tocynnau a’r trefniadau,” meddai.
Os nad ydych chi wedi cael tocyn i Yn ôl i Nyth Cacwn, y bwriad yw gwneud ambell i berfformiad arall yn Theatr Felin-fach yn yr hydref.
Ond beth fyddai ei ymateb pe bai S4C yn gofyn am ragor o Nyth Cacwn? “Y teimlad sy’ gyda ni nawr yw bod y stori wedi gorffen gyda bod yr Eisteddfod yn dod i Dregaron,” meddai. “Efallai ein bod ni’n rhoi diwedd ar y stori, neu falle bod ni’n dachre’r stori, dw i ddim yn gwybod… Pe bai diddordeb ganddyn nhw i gael y ddrama hyn, popeth yn iawn!”
- Yn ôl i Nyth Cacwn, Pafiliwn Bont, Pontrhydfendigaid, Mercher a Iau, 3 a 4 Awst (ffoniwch Theatr Felin-fach i gael bod ar restr aros am docyn)
Cylchgrawn Golwg yn ddigidol ar y We
Os ydych chi eisiau darllen erthyglau cylchgrawn Golwg ar y We, ewch i fan hyn: