Mae rhestr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig eleni wedi cael ei chyhoeddi, gyda 15 o artistiaid yn y ras am y wobr fawreddog.

Mae’r wobr yn dathlu ac yn amlygu’r gerddoriaeth newydd orau yng Nghymru, ac yn cael ei noddi gan Lywodraeth Cymru a PPL, a’i gefnogi gan Help Musicians.

Ymysg y 15 o artistiaid yn y ras am y wobr, o blith y 130 ar y rhestr hir, mae Adwaith, Breichiau Hir, Gwenno a Papur Wal.

Mae’r albwm ‘Tresor’ gan Gwenno, ei thrydydd albwm, hefyd wedi’i henwebu ar gyfer Gwobr Gerddoriaeth Mercury eleni.

Ymhlith yr enillwyr blaenorol mae Gruff Rhys, Gwenno a Boy Azooga, a chafodd y wobr ei rhoi y llynedd i Inner Song gan Kelly Lee Owens o Sir y Fflint.

Bydd gan y beirniaid y dasg o ddewis un o’r 15 albwm sydd wedi’u henwebu ar gyfer y wobr fawr, a’r wobr o £10,000.

Y rhestr fer

Adwaith – Bato Mato (Libertino Records)

Art School Girlfriend – Is It Light Where You Are (Fiction)

Bryde – Still (Easy Life Records)

Breichiau Hir – Hir Oes I’r Cof (Libertino Records)

Buzzard Buzzard Buzzard – Backhand Deals (Communion)

Cate Le Bon – Pompeii (Mexican Summer)

Carwyn Ellis & Rio 18 and The National Orchestra of Wales – Yn Rio (Legere Recordings)

Dead Method – Future Femme (Future Femme Records)

Danielle Lewis – Dreaming In Slow Motion (Red Robin Records)

Don Leisure – Shaboo Strikes Back (First World Records)

Gwenno – Tresor (Heavenly Recordings)

L E M F R E C K – The Pursuit (Noctown)

Manic Street Preachers – The Ultra Vivid Lament (Sony Music)

Papur Wal – Amser Mynd Adra (Libertino Records)

Sywel Nyw – Deuddeg (LWCUS T)