Gair sydyn â rhai o artistiaid maes Eisteddfod yr Urdd
Steffan a Gwion o Roughion Un peth dydych chi’n sicr ddim yn brin ohono ar faes Eisteddfod yr Urdd yw cerddoriaeth – boed hynny ar y llwyfan, y stondinau, neu allan ar y llwyfan awyr agored.
Drwy gydol yr wythnos hon mae golwg360 wedi bod yn sgwrsio â rhai o’r artistiaid sydd wedi mentro i’r maes yng Nghaerffili, gan ei holi nhw ynglŷn â’u prosiectau diweddaraf.
Ac fe fydd cyfle hefyd i chi glywed ambell gân gan y cerddorion hefyd, boed hi’n un o’u rhai gwreiddiol nhw neu’n fersiwn newydd o alaw adnabyddus.
Rydyn ni’n barod wedi cael sgwrs gyda Plu, Gildas, Calan, ac y Y Ffug, a heddiw tro Roughion oedd hi i gael eu holi.
Mae ddeuawd o gerddorion electronig, Steffan Woodruff a Gwion Llŷr, yn dod o Aberystwyth ac yn adnabyddus am eu hoffter o ddefnyddio samplau Cymraeg enwog yn eu cerddoriaeth.
Dyma ni’n cael gair sydyn â’r ddau ar y maes heddiw:
Nod yr adran Safbwynt yw sbarduno trafodaeth am Gymru a thrafodaeth am y byd yn Gymraeg. Gallwch gyfrannu erthyglau am unrhyw bwnc – diwylliant, yr iaith, celfyddydau, teledu, radio, yr amgylchedd, twristiaeth, iechyd, gwleidyddiaeth, hanes, addysg, yr economi, yr iaith… unrhyw beth, ewch amdani!
Darllen rhagor
Ar ôl cyflwyno’ch erthygl, bydd golygyddion Golwg yn cael cyfle i’w golygu, ei chymeradwyo, a’i chyhoeddi – bydd eich erthygl wedyn yn ymddangos ar adran Safbwynt ar Golwg360.
Byddwn hefyd yn rhannu eich erthygl i’n dilynwyr ar Twitter a Facebook, felly cofiwch dynnu sylw at eich erthygl a’i hanfon at eich ffrindiau ac unrhyw un arall a allai fod â diddordeb. Bydd eich enw ar y wefan yn gweithredu fel dolen i’ch holl gyfraniadau – felly gallwch ei drin ychydig fel blog personol.
Os byddwch am gyfrannu’n rheolaidd – cysylltwch! Gallwn drefnu tanysgrifiad am ddim i gyfranwyr rheolaidd.