Hannah Roberts sydd yn gweld cyfle i ni werthfawrogi beth sydd gan ein siopau annibynnol i’w cynnig …
Yn 2007, dechreuwyd Diwrnod Siop Recordiau pan ddaeth dros 700 o siopau recordiau annibynnol yn UDA at ei gilydd i ddathlu eu diwylliant unigryw. Erbyn heddiw mae’r DU yn rhan o’r dathliadau ac ar 19 Ebrill eleni fe fydd y sector annibynnol yn croesawu’r seithfed dathliad.
Mae Diwrnod Siop Recordiau yn rhoi cyfle i siopau annibynnol i ddod at ei gilydd gydag artistiaid er mwyn dathlu cerddoriaeth, cerddorion ac artistiaid nas llofnodwyd.
O ran y diwrnod arbennig lansir finylau a CD argraffiadau cyfyngedig a bydd amrywiaeth o gynhyrchion unigryw ar gael yn arbennig. Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o rywbeth mwy rhyngwladol erbyn heddiw.
Fel calon ddiwylliannol tref, roedd y siop record annibynnol yn ganolog i’r diwydiant. Erbyn heddiw, yn enwedig yng Nghymru, maent yn brin, ond dyma amser i ymchwilio am eich siop agosaf.
Cofio’r cyntaf
Felly, ydych chi’n cofio eich record gyntaf? Yn ddiedifar, fy albwm cyntaf oedd ‘Spice’ gan Spice Girls a fy sengl gyntaf oedd ‘Rise Up!’ gan Jamaica United sef anthem pêl droed Jamaica yng Nghwpan y Byd 1998 – doeddwn i ddim yn disgwyl i chi wybod am y gân honno o gwbl!
Falle (a gobeithio yn ôl rhai) bod fy newisiadau cerddorol wedi newid erbyn heddiw er gwell, ond dwi’n gallu cofio’r holl brofiad a bod yn llawn cyffro.
Mae dathliadau Diwrnod Siop Recordiau’n dathlu atgofion fel hyn a hyd yn oed diwylliant cerddoriaeth pob grŵp oedran. Gall gwrando ar gerddoriaeth fod yn rhywbeth cymdeithasol a gall uno pobl o bob cenhedlaeth.
Finyl yn arbennig
Mae finyl yn gyfrwng cadarn, mae wedi goroesi ac wedi gweld nifer o ffurfiau dros y blynyddoedd.
Rhan o’i swyn yw’r profiad. Mae’n rhaid i rywun lawio finyl – mae arogl, gwaith celf, sŵn clecian yn ychwanegu at lawenydd o gasglu recordiau.
Mae rhyw fath o ymrwymiad wrth gasglu finylau a recordiau – mae cytundeb cerddorol rhyngoch chi a’ch parch i’r record. Nid yw’r cyfrwng hwn yn gludadwy nac yn gyflym chwaith, felly mewn ffordd mae’n galw am eich ystyriaeth.
Os ydym ni’n meddwl am sut rydym yn gwrando ar ein cerddoriaeth heddiw, mae’r rhan fwyaf ohonom yn gwrando’n ddigidol, lawrlwytho’r gân newydd yn gyflym a’i gwaredu’r un mor sydyn.
Mae’r finyl yn fodd gwahanol o ymdrin â recordiau, yn brofiad hollol wahanol. Mae’n rhaid i chi fynd i siop yn gyntaf, wedyn treulio amser mewn awyrgylch o anesmwyther wrth chwilio am eich trysor gwerthfawr.
Profiad unigryw
Mewn ffordd, dylem edrych ar ddathliad y Diwrnod Siop Recordiau fel pen-blwydd i’n hatgoffa pa mor bwysig yw’n siopau recordiau annibynnol, oherwydd chawn ni ddim yr un profiad unman arall.
Mae’n fwy na dathliad o siopau recordiau hyd yn oed. Mae’n ddathliad o ddiwylliant cerddorol a oroesodd ac wrth gwrs y recordiau rydych yn eu caru neu eu casáu.
Dw i ddim yn gwybod sut y byddwn ni’n prynu’n cerddoriaeth yn y dyfodol na pha ffurf fydd ein cerddoriaeth, ond does gen i ddim amheuaeth y bydd finyl a recordiau iawn yn goroesi.
Mae 14 o siopau recordiau annibynnol yn rhan o Ddiwrnod Siop Recordiau 2014, ac fe allwch ganfod y rhai agosaf i chi ar wefan y digwyddiad.
Gallwch ddarllen mwy gan Hannah ar ei blog, http://jazzysheepbleats.wordpress.com/, neu ei dilyn ar Twitter ar @Tweet_The_Bleat.