Trowsus Dylan Thomas
Mae dynes o Landaf ger Caerdydd wedi penderfynu gwerthu pâr o drowsus y mae’n honni oedd yn eiddo i’r bardd o Abertawe, Dylan Thomas.
Mae’n gofyn am bris cychwynnol o £3,500 am yr eitem, gan nodi eu bod nhw “wedi cael eu defnyddio”.
Yn ôl y gwerthwr, daeth y trowsus i feddiant ei theulu gan ofalwr tŷ’r bardd yn Nhalacharn.
Fe dreuliodd Dylan Thomas lawer o amser yn Nhalarcharn yn Sir Gaerfyrddin tua diwedd ei oes.
Dylan Thomas
Mae gan bobol sydd â diddordeb yn y trowsus tan Ebrill 25 i wneud cais amdanyn nhw.
Yn ôl y gwerthwr, ei thad oedd wedi derbyn y trowsus gan Annie Long yn Nhalacharn dros ddeugain mlynedd yn ôl.
Dywedodd y ddynes, sy’n dymuno aros yn ddienw, wrth Golwg360: “Roedd fy niweddar dad yn cerdded ar hyd y llwybr yn Nhalacharn pan oedd Annie Long yn cerdded tuag ato.
“Wnaeth e ofyn a oedd ganddi rywbeth o eiddo Dylan i’w werthu iddo gan ei fod e’n hoff ohono fe.
“Roedden ni bob amser yn mynd ar wyliau i’r ardal ac i’r sied ysgrifennu.
‘Arwr’
“Roedd y siaced oedd gyda’r trowsus wedi pydru, ond fe brynodd e’r trowsus am £5, oedd yn dipyn o arian bryd hynny.
“Mae Dylan yn arwr bellach ond prin roedd pobol yn ei nabod e bryd hynny.”
Dywedodd ei bod yn anodd profi mai trowsus Dylan Thomas ydyn nhw, ond bod darn o bapur wedi dod gyda nhw gydag enw golchdy yn Sir Gaerfyrddin arnyn nhw.
“Wnes i ffonio’r amgueddfa yn Abertawe tua 15 mlynedd yn ôl ond fe ddywedon nhw y byddai’n anodd i fi brofi mai trowsus Dylan ydyn nhw.
“Fe wnes i osod pris o £3,500 arnyn nhw ar eBay gan mai dyna’r uchafswm maen nhw’n gadael i chi ofyn amdano.
“Does dim ots gen i a ydw i’n eu gwerthu nhw neu beidio – fe fyddan nhw’n mynd i aelodau fy nheulu ar fy ôl i os na.”
Anodd dilysu
Ond dywedodd ei bod yn awyddus i fanteisio ar gyhoeddusrwydd canmlwyddiant geni’r bardd eleni.
Yn ôl curadur 5 Cwmdonkin Drive, man geni’r bardd sydd bellach yn amgueddfa, mae’n anodd iawn dilysu’r eitem.
Dywedodd Matthew Hughes wrth Golwg360: “Mae’n anodd dilysu gwreiddiau eitem fel yr un yma.
“Dwi wedi gweld y llun sydd ar eBay o’r blaen ond does dim modd i fi ddweud yn sicr mai trowsus Dylan ydyn nhw.
“Yr hyn y gallaf ei ddweud yn sicr yw mai gofalwr ei dŷ yn Nhalacharn oedd dynes o’r enw Dolly Long.
“Roedd hi’n gofalu am y tŷ rhwng 1949 a 1953 ond yn anffodus, mae hi bellach wedi ein gadael ni.”