Theatr y Palas, Abertawe
Mae arian cyhoeddus yn golygu y gall y gwaith o adnewyddu theatr eiconig yn Abertawe fynd yn ei flaen.
Mae dyfodol Theatr y Palas yn cael ei drafod gan Gyngor y ddinas a’r perchnogion o Swydd Gaint.
Mae’r adeilad, sydd wedi’i restru ac sydd mewn cyflwr difrifol, wedi derbyn bron i £75,000 i’w adnewyddu.
Mae’r swm yn cyfateb i hanner y grant a dderbyniodd y cyngor gan Lywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau atgyweirio.
Mae’r adeilad yn y rhestr o’r deg adeilad Fictorianaidd ac Edwardaidd sydd yn y cyflwr gwaethaf yng Nghymru a Lloegr.
Yn ôl adroddiadau, mae angen gwneud gwaith i drwsio system wrth-ddŵr y theatr, yn ogystal â thrwsio’r to ac atgyweirio’r gwaith brics ar y tu allan i’r adeilad.
Y llynedd, mynegodd yr Ymddiriedolaeth Theatrau bryderon am ddyfodol yr adeilad.
Hanes y theatr
Agorodd y theatr ar Stryd Fawr Abertawe yn 1888, ac mae rhai o enwau mwyaf y byd adloniant – gan gynnwys Charlie Chaplin – wedi perfformio yno.
Roedd yn theatr tan 1953, cyn y daeth yn sinema hefyd.
Cafodd gwaith adnewyddu ei gwblhau ddechrau’r 1960au pan ddaeth yn theatr ac yn neuadd bingo.
O 1970 ymlaen, daeth yn glwb nos hefyd
Erbyn hyn, mae lle i 600 yn yr adeilad.
Yn ystod y 1960au, roedd yn gartref i gwmni Little Theatre ond fe gafodd ei gau yn 2006 yn dilyn pryderon am ddiogelwch.
Mae cyflwr presennol yr adeilad yn golygu y bu’n anodd denu prynwr newydd, gan ei fod hefyd yn ymddangos ar restr Adeiladau mewn Perygl y cyngor.
Mae’r adeiladau eraill sydd wedi cael eu clustnodi ar gyfer gwaith cynnal y chadw yn cynnwys pont Rufeinig ar gyrion Y Mwmbwls a bwthyn dull Y Swistir ym Mharc Singleton, yn ogystal â safle gwaith copr yn yr Hafod.
Mae’r adeiladau ymhlith 515 o safleoedd o ddiddordeb arbennig yn Abertawe, ac mae 48 ohonyn nhw mewn cyflwr argyfyngus.
Mae’r cyngor yn blaenoriaethu arian ar gyfer adeiladau’n seiliedig ar statws treftadaeth, lefelau perygl, y potensial i’w hadnewyddu a’u lle amlwg ym mywyd y gymuned.