Jeremy Clarkson
Mae Ymddiriedolaeth y BBC wedi cyhoeddi y byddan nhw’n cynnal archwiliad o gyflogau rhai o sêr mwyaf y BBC mewn adolygiad o sut mae eu costau’n cymharu â rhai’r gystadleuaeth.
Bydd yr Ymddiriedolaeth yn ystyried faint o arian mae “talent” yn cael eu talu yn ei raglen o adolygiadau dros y misoedd nesaf.
Amcangyfrif bod tua £200 miliwn y flwyddyn yn cael ei wario ar gyflogau sêr y BBC a chredir bod Graham Norton, Jeremy Clarkson, Jeremy Paxman a Fiona Bruce ymhlith y rhai sy’n cael eu talu fwyaf.
Y tro diwethaf i’r BBC graffu ar y mater o gyflogau oedd yn 2009. Ers hynny mae’r bil talent wedi gostwng 13%.
Yn ôl adroddiad blynyddol y BBC y llynedd, mae 14 o sêr y gorfforaeth yn cael mwy na £500,000 y flwyddyn ond roedd hynny ddau yn llai na’r flwyddyn flaenorol.