Jamie Smith a Gwilym Bowen Rhys
Non
Tudur a fu’n gwrando ar nythaid o gerddorion gwerin profiadol ar y daith werin genedlaethol ddiweddaraf …

Mae sawl deuawd a thriawd newydd sionc wedi dod i’r fei yn sgil cywaith y ‘Cylch Canu’ – taith a chyngerdd gyda deg o gerddorion a chantorion gwerin cyfoes mwya’ profiadol Cymru. Syniad yr hyrwyddwyr gwerin Gerard Kilbride yw’r Cylch, ar y cyd â Theatr Mwldan, gan neidio ar don y diddordeb diweddar yn y byd gwerin.

Fe fyddai rhai o’r gynulleidfa yn gyfarwydd â baledi Gwyneth Glyn neu synau cerdd dant Gwenan Gibbard; eraill yn ’nabod gwaith y gitarydd Dylan Fowler neu’r crythor Robert Evans; a sawl un efallai yn ffans brwd o Jamie Smith o’r grŵp enwog Mabon. Da felly eu gweld gyda’i gilydd am unwaith.

A dyna i chi ddeuawd del oedd Gwyneth Glyn a Jamie Smith (sy’n edrych yn union fel petai Lord Byron yn chwarae’r acordion) yn canu cân fôr J Glyn Davies, ‘Yn Harbwr San Francisco’. Mi fuasai llun y ddau yn gwneud hysbyseb billboard perffaith i’r sin werin Gymraeg.

Roedd Gwilym Bowen Rhys (mae rociwr Bandana wedi hen haeddu ei le yn y clwb gwerin erbyn hyn) yno i byncio’i addasiad gwych o’r alaw ‘Wel, Bachgen Ifanc Ydwyf’, y daeth o hyd iddi yng nghasgliad Meredydd Evans. Fe’i canodd yr un mor afieithus ag y gwnaeth ar y daith ‘Deg Mewn Bws’ llynedd. Efallai i mi fwynhau perfformiad yr offerynwyr ifanc y llynedd o’r gân a dweud y gwir. Anodd dweud pam – roedd fel petai yna fwy o impact, neu gyffro.

Cerdd dant

Un o sêr diamheuol y noson oedd Beth Williams-Jones o’r grŵp Calan. Fe ddawnsiodd ddawns y glocsen yn ei throwsus gwyrddlas sidan a’i blows wedi’i glymu ar ei stumog; a bu’n cyfeilio ar ei hacordion bach. Yna fe ganodd ‘Aderyn Pur’ a ‘Gwcw Fach’ fel eos o bêr. Mae hi’n haeddu cael cytundeb recordio ar ei phen ei hun.

Fe ganodd Gwenan Gibbard – un o sêr cyngerdd Womex llynedd – gerdd dant yn nodweddiadol o swynol a meistrolgar. Ceiriog sydd berchen ar bennill cyntaf ‘Calon Drom’ – cân sydd hefyd ar ei CD Cerdd Dannau – a Gwenan ei hun bia’r ail a’r trydydd. Mi soniodd rhywun wrth y bar yn ystod hanner amser bod Gwenan wedi ei droi yn ffan o gerdd dant ar ôl hir-gasáu’r traddodiad.

Codi’r to

Sôn am sŵn… bu bron i lais Gwilym B godi to’r Galeri yng Nghaernarfon yn llythrennol yn ystod ‘Carol y Swper’ ar y diwedd un. Roedd yn sefyll ar ganol y rhes a’r naw arall mewn rhes wrth ei ochr (dim ond dynion sy’n ei chanu fel arfer ar ddiwedd gwasanaeth Plygain). Codai ei lais nerthol, a’i grygni soniarus, i’r entrychion. Efallai y dylai fod wedi gostegu ychydig arno er cysted ei fynegiant geiriol. Er mwyn cystadlu ag e, roedd y ffidlwr a’r pibydd Patrick Rimes wrth ei ochr yn naturiol yn canu’n uwch, a phrin felly yr oedd lleisiau Gwyneth Glyn, Gwenan Gibbard, Beth Williams-Jones a Delyth Jenkins i’w clywed.

Roedd llais Patrick braidd yn rhy groch hefyd ar y garol ‘Wel Dyma’r Bore Gore i Gyd’ (er ei fod hefyd yn hunan-gyfeilio fel dewin ar y gitâr). Tybed pwy a ddywedodd wrthyn nhw bod eisie gweiddi-canu carolau Plygain?

Ar ôl dweud hyn, roedd lleisiau Patrick, Gwilym a Stephen Rees wedi llwyddo i asio’n gampus fel triawd ar y sianti ‘Mae’r Gwynt yn Deg’ ar ddechrau’r cyngerdd.

Un o’r heileits oedd perfformiad y gitarydd Dylan Fowler (Alaw) o ‘Ffynnon Ofor’ / ‘Taith Madog’, a’r dorf yn fud yn gwrando arno’n goglais ac yn anwesu tannau’r gitâr fel hen faestro flamenco.

‘Perfformiad disglair’

Dylai pawb fynd i weld Jamie Smith (Mabon) yn perfformio o leiaf unwaith yn eu bywyd. Rhoddodd berfformiad disglair o’i gyfansoddiad gwreiddiol ei hun ‘Gareth and Aoife’, ynghyd ag alaw Sbaenaidd ‘Charrada de Bercimuelle’ ac un o Wlad y Basg, ‘Lurra Terra’ . Wel, waw. Dyn ffraeth yw Jamie, yn codi chwerthin trwy gymharu’r perfformiadau gyda rhai’r X-Factor.

Buasai mwy o gleber ysgafn fel hyn wedi bod yn beth da i dorri ar y naws wylaidd, barchus. Mae’r Cymry yn hen gyfarwydd â threfn y noson lawen, a cherddorion yn cellwair rhwng caneuon. Mae Jamie yn gallu trin ei gynulleidfa’n dda; does yna ddim rhyfedd bod ei grŵp Mabon wedi cael teithiau llwyddiannus i bedwar ban byd.

Braf gweld y nythaid ddawnus yma yn cydweithio, a bod y gynulleidfa (annigonol, rhaid dweud) yn cael eu cyflwyno i ambell dderyn dierth. Roeddwn wedi clywed sawl trefniant/perfformiad o’r blaen ar CD neu mewn gigs unigol – ond, fel dywedodd Stephen Rees, megis hadyn yw’r daith yma, ac mae gobaith y bydd y cynllun yn blaguro i sawl cyfeiriad.

* Cylch Canu – heno (Iau) yn Theatr Brycheiniog; yna nos Wener, Ebrill 11 yn Theatr Hafren Drenewydd, a nos Sadwrn, Ebrill 12 yn Neuadd y Frenhines, Arberth.