Lisa Gwilym
Neithiwr cafodd enwau’r tri band fydd yn cystadlu am deitl Brwydr y Bandiau yng nghystadleuaeth C2 a Menter Iaith eu cyhoeddi – gyda Trwbz, Nofa a Meibion Jacks yn cipio’u lle yn y ffeinal.
Bydd y rownd derfynol yn cael ei darlledu ar raglen C2 Radio Cymru ar 7 Mai, gyda’r bandiau sydd wedi mynd drwyddo nawr yn cael y cyfle i recordio’u caneuon mewn stiwdio o’u dewis.
Pleidleisiodd gwrandawyr C2 dros ddwy noson ar gyfer eu ffefrynnau ym Mrwydr y Bandiau, gyda Trwbz yn fuddugol o raglen nos Fawrth a Nofa a Meibion Jacks yn sicrhau eu lle neithiwr.
Cystadleuaeth frwd
Cipiodd Trwbz eu lle yn rownd derfynol o flaen Y Gwryf ac Aran gyda’r gân ‘I Estyn am y Gwn’, gyda chwaraewr gitâr bas y band Morgan Elwyn yn dweud fod y band yn edrych ymlaen at fedru dechrau recordio mewn stiwdio go iawn.
Llwyddodd Nofa a Meibion Jacks i sicrhau eu lle yn y ffeinal ar ôl dod yn fuddugol dros Y Rhacs neithiwr, gydag un o aelodau band Nofa yn cyfaddef wrth Lisa Gwilym nad oedd yn medru credu eu bod wedi mynd trwyddo i’r rownd derfynol.
Mae Nofa’n gobeithio mynd ymlaen i recordio’u demo cyntaf yn yr haf ar ôl y gystadleuaeth ddod i ben ar 7 Mai.
Bydd enillydd y rownd derfynol yn cael cyfle i recordio sesiwn C2 a pherfformio mewn nifer o gigiau gan gynnwys rhai Menter Iaith, Maes B a Gŵyl Tafwyl eleni.