Fe fydd gofod newydd ar gyfer llwyfannu perfformiadau drama ar faes yr Eisteddfod yn Sir Gâr eleni.
Mae’r Cwt Drama, sy’n syniad ar y cyd rhwng yr Eisteddfod a Theatr Genedlaethol Cymru, yn bwriadu adeiladu ar lwyddiant y Theatr ar y Maes, yn ogystal â chryfhau’r berthynas rhwng y ddau sefydliad cenedlaethol.
Bydd y Cwt Drama hefyd yn adnodd a fydd ar gael i’w ddefnyddio ar adegau eraill o’r flwyddyn.
‘Datblygiad cyffrous’
Meddai Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts, “Mae’r Cwt Drama’n ddatblygiad cyffrous, nid yn unig yn y berthynas rhyngom ni a’r Theatr Genedlaethol ond hefyd i ddrama a pherfformio ar Faes yr Eisteddfod.
“Mae drama a’r theatr yn rhan greiddiol o’r Eisteddfod, a thros y blynyddoedd diwethaf, mae’r arlwy wedi datblygu’n arw gan fynd o nerth i nerth.
“Mae’r Theatr yn lleoliad poblogaidd sydd yn aml dan ei sang. Roedd gan y Theatr Genedlaethol adeilad pwrpasol ar gyfer eu perfformiadau, Rhwydo / Vangst, y llynedd hefyd, a bu modd cynnal perfformiadau eraill yno ar rai adegau o’r wythnos, gan ddangos i ni fod galw am leoliad ychwanegol a newydd i ddrama ar y Maes.
Ychwanegodd Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig, Theatr Genedlaethol Cymru:
“Bydd y Cwt Drama yn adnodd theatr gwych ar gyfer y cwmnïau cynhyrchu Cymraeg, artistiaid sydd am ddangos gwaith mewn datblygiad neu brosiectau ar raddfa fechan, neu sgyrsiau ar waith theatr.
“Rydym wrthi ar hyn o bryd yn paratoi rhaglen lawn fydd yn arddangos talent newydd byd y theatr Gymraeg ac yn cynrychioli’r bwrlwm o weithgaredd sydd yn digwydd ar draws y sector.