Ed Holden, neu 'Mr Phormula'
Owain Schiavone sy’n holi pam fod hip-hop Cymraeg wedi dod yn beth prin dros y blynyddoedd diweddar yn dilyn oes aur canol y ddegawd ddiwethaf …
Ro’n i’n falch iawn clywed y newyddion am albwm newydd Mr Phormula (neu Ed Holden i’w deulu), Cymud, yn cael ei ryddhau ar label Recordiau Rheidol wythnos diwethaf.
Dwi’n hoff iawn o gerddoriaeth rap a hip-hop ers yn ifanc – stwff digon naff fel senglau ‘U Can’t Touch This’ a ‘Do the Bartman’ (dwi’n gwbod … nes i ddeud naff yn do!) yn dal y sylw gyntaf, cyn graddio i record gyntaf Shaggy, Pure Pleasure, sef un o’r albyms cyntaf i mi brynu.
Ar ôl hynny, cyfnodau o wrando tipyn ar Public Enemy, Cypress Hill, Beastie Boys a De La Soul a gweld y genre’n dod yn fwyfwy poblogaidd gan ymuno â’r brif ffrwd yn raddol. Ers troad y mileniwm mae Eminem, Jay-Z a Kanye West wedi dod yn rai o bobl enwocaf y byd.
Mae ‘na draddodiad reit gref o hip-hop Cymraeg hefyd, gyda Llwybr Llaethog yn arloesi gyda’r EP ‘Dull Di-Drais’ ym 1986.
Yna yng nghanol y 1990au daeth Y Tystion i danio’r genre unwaith eto gan arwain at gyfres o grwpiau digon poblogaidd yn rapio yn y Gymraeg.
Cafodd MC Mabon gydnabyddiaeth ar lefel Prydeinig, ac mae Mr Blaidd, Nia Non a Jonez Williamz yn rai o’m hoff recordiau.
Oes aur
Canol y 00au oedd yr oes aur i hip-hop Cymraeg cofiwch, a gellid dadlau fod sin hip-hop oedd yn cystadlu gyda roc indî yn y cyfnod hwnnw.
Yng nghanol y cyfan roedd y grŵp gwych o Borthmadog, Pep le Pew, dan arweiniad Dyl Mei ac Aron Elias, gydag Ed Holden ychydig yn y cefndir, ond yn aros ei gyfle. Roedd Cofi Bach a Tew Shady yn creu argraff, Steffan Cravos o’r Tystion wedi ffurfio prosiect Lo Cut a Sleifar gyda Curig Huws ac MC Saizmundo’n poeri ei bregeth at unrhyw un fyddai’n gwrando.
Roedd ‘na nifer o brosiectau llai amlwg hefyd – Kenavo o Aberystwyth, Dybl L o Gaernarfon a MC Peryg yn rai sy’n dod i’r cof.
Roedd ‘na symudiad hip-hop go iawn ar droed, a hwnnw’n cael ei grynhoi gan y siwpyr-grŵp cydweithredol Sleifar a’r Teulu a recordiodd sesiwn radio 1 yn Maida Vale yn 2005 (mae’n werth gwylio’r ffilm ddogfen yma).
MC Sleifar a’r Teulu yn Maida Vale (rhag ofn eich bod chi’n pendroni ystyr y pennawd!):
Pethau’n pylu
Symudodd Genod Droog y genre i gyfeiriad gwahanol erbyn diwedd y ddegawd, ac roedd gan Ed Holden ac Aneirin Karadog brosiect ymylol Y Diwygiad ar y gweill hefyd.
Er hynny, yn raddol mae’r grwpiau hip-hop wedi lleihau ac erbyn hyn mae’n job meddwl am unrhyw brosiectau newydd ar wahân efallai i Radio Rhydd sydd â mwy o duedd pync, ac albwm cysyniadol Y Datgyfodiad – prosiect diweddaraf Nei Karadog.
Mae hynny’n drueni mawr yn fy marn i, yn enwedig gyda chwynion diweddar am y diffyg amrywiaeth mewn cerddoriaeth Gymraeg cyfoes … nid fy mod i’n cytuno’n llwyr gyda’r farn honno.
Dwi’n methu gweld rheswm amlwg am y diffyg yma, gyda rap yr un mor boblogaidd ag erioed yn y sin Eingl-Americanaidd sy’n ein hamgylchynu ni.
Ydy pobl yn teimlo nad ydy’r genre’n ddigon hygyrch i’r gynulleidfa tybed? Neu ai mynd mewn cylchoedd mae pethau, ac mae tro gwerin gyfoes ydy hi ar hyn o bryd i gynnig amrywiaeth i roc indî?
Pwy a ŵyr, ond rydw i’n gweld colli hip-hop Cymraeg, ac wrth edrych ar rai o’r enwau sydd wedi cyfrannu at albwm newydd Ed, dwi’n gobeithio bydd y record yn hybu oes aur newydd i’r genre. Yn sicr mae Ed Holden yn haeddu clod am ei waith diflino i hyrwyddo’r genre yng Nghymru.