Syr Mick Jagger
Mae’r Rolling Stones wedi canslo cyngerdd yn Awstralia yn dilyn marwolaeth y cynllunydd ffasiwn L’Wren Scott, cariad y canwr Syr Mick Jagger.

Mae’n debyg bod y fodel a’r cynllunydd 49 oed wedi cael ei darganfod yn crogi yn ei fflat yn Efrog Newydd ddoe.

Roedd hi wedi bod mewn perthynas gyda Mick Jagger ers 2001.

Mae teyrngedau lu wedi cael eu rhoi i L’Wren Scott ar ôl i’w chorff gael ei ddarganfod yn y fflat yn Manhattan ddydd Llun.

Daeth i’r amlwg bod ei chwmni ffasiwn ym Mhrydain, LS Fashion Cyf, wedi bod yn gwneud colledion o £3.5 miliwn yn 2012 a mwy na £2.5 miliwn yn 2011.

Mae Frontier Touring, sy’n trefnu cyngherddau’r Rolling Stones, wedi cadarnhau bod y gyngerdd yn Perth yfory wedi ei chanslo.