Aneurin Barnard, chwith, gyda Iwan Rheon
Y Cymro Aneurin Barnard sydd wedi cael ei ddewis i chwarae gŵr Cilla Black mewn cyfres deledu newydd ar sianel ITV.

Fe fydd y gyfres ‘Cilla’, sydd wedi ei sgwennu gan y sgriptiwr ffilm Jeff Pope, yn edrych ar y berthynas rhwng y gantores a’r gyflwynwraig deledu o Lerpwl a’i gŵr, Bobby Willis – pobydd a aeth ymlaen i dywys Cilla Black drwy’i gyrfa.

Yn wreiddiol o Ddyffryn Ogwr, mae Aneurin Barnard, 27, yn gyn-ddisgybl o Ysgol Gyfun Llanhari ac fe fu’n hyfforddi fel actor yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Caerdydd.

Ar ôl graddio yn 2008, fe ymunodd a chast y sioe gerdd Spring Awakening yn 2009, a mynd ymlaen i ennill gwobr Laurence Olivier am ei ran. Mae hefyd wedi ymddangos ar raglenni teledu Doctors, Casualty, Shameless, Y Pris a Jacob’s Ladder.

Sheridan Smith fydd yn chwarae rhan Cilla Black yn y gyfres, gyda Melanie Hill yn chwarae ei mam ac Ed Stoppard yn chwarae rhan rheolwr y Beatles.