Veronica Lemishenko
Mae telynores o’r Wcráin ar fin gadael yr helbul yn ei gwlad er mwyn dod i Gymru a chystadlu yng Ngŵyl Delynau Rhyngwladol Cymru 2014 yng Nghaernarfon.

Fe fydd Veronica Lemishenko yn cystadlu yn erbyn rhai o delynorion gorau’r byd fel rhan o’r gystadleuaeth y Prif Gerddor y mis nesa’.

“Wrth gwrs, mae’r sefyllfa sydd ohoni yn Wcráin yn peri gofid i bawb,” meddai’r delynores 24 mlwydd oed. Mae Veronica a’i mam, Alla, wedi derbyn fisâu i fynychu’r ŵyl saith diwrnod sydd yn cychwyn ar Ebrill 20.

“Rwyf yn astudio yn Rwsia ar hyn o bryd, ond mae fy mam yn Wcráin, ond diolch byth rydym wedi derbyn cadarnhad ein bod yn gallu dod i Gymru.

“Dechreuais baratoi ymhell cyn i’r trybini cychwyn, ond rwy’n edrych ‘mlaen i ddod i Gymru. Mae fy nheulu wedi cefnogi fy mhenderfyniad i gymryd rhan ac i gystadlu ar ran fy mamwlad – Yr Wcráin.

“Maent yn gwybod pa mor bwysig mae cerddoriaeth i mi – rwy’n credu’n gryf ym mhŵer cerddoriaeth i uno a chysylltu pobl. Yn fy marn i mae cerddorion tu hwnt i’r byd politicaidd ond mewn rhai sefyllfaoedd mae’n anodd peidio ymateb – ond rwy’n credu dylai pobl o bob cwr o’r byd uno am heddwch.”

Fe fydd trydedd Gwyl Delynau Rhyngwladol Cymru yn croesawu cystadleuwyr a pherfformwyr o 26 wlad.