Miriam Elin Jones
Miriam Elin Jones sy’n dadlau fod y geiriau llawn mor bwysig mewn cân a’r alaw …
“Songwriters are not poets. Or songs are not poems, I should say. In fact, songs are often bad poems. Take the music away and what you’re left with is often an awkward piece of creative writing full of lumpy syllables, cheesy rhymes, exhausted clichés and mixed metaphors.”
– Simon Armitage yn trafod lyrics caneuon.
I mi, mae geiriau cân yn holl bwysig – y geiriau sy’n sticio yn fy nghof ac yn gwrthod gadael fynd.
Rydym yn cael ein sbwylio, i raddau, yng Nghymru, gan fod nifer o feirdd-gantorion wrthi’n cyfansoddi, ac mae barddoniaeth a chanu yn ddwy gelfyddyd sy’n ymddangos fel petaent yn mynd law yn llaw, gan fynd yn groes i’r hyn a ddywedwyd gan Simon Armitage yn y dyfyniad uchod.
Roedd rhaglen ddogfen am y bardd Iwan Llwyd dros y Sul yn sôn am sut âi’r bardd ati i gyplysu’r gerddoriaeth a’r farddoniaeth, gan gredu’n gryf ei fod yn naturiol i gyfryngau gwahanol gyfuno.
Pa mor bwysig yw geiriau mewn cân, ac yn wir, a ddylwn ystyried werth barddonol ein caneuon heddiw?
‘Beirdd a chantorion, enwogion o fri…’
Mae’n arferiad erbyn hyn rhoi cân ar faes llafur y cwrs TGAU Cymraeg. Ar hyn o bryd, rwy’n ymwybodol bydd nifer o ddisgyblion yn gorfod dysgu ‘Colli Iaith’ gan Harri Webb erbyn arholiadau’r haf, a dwi’n cofio gorfod astudio ‘Pam Fod Eira’n Wyn?’ gan Dafydd Iwan pan roeddwn innau’n dilyn y cwrs hwnnw.
Mae’n rhyfedd nad yw cyrsiau Saesneg cyffelyb yn rhoi’r fath bri i’w traddodiad cerddorol hwythau, ond mae’n glodwiw ein bod ninnau’n gwneud. Gallaf feddwl am sawl enghraifft yn y Gymraeg lle gallwn dynnu geiriau cân o’i alaw a’i darllen fel testun ar ei phen ei hun.
Ymhen deng neu ugain mlynedd, tybed pa rai o’n caneuon heddiw fydd yn cael eu hystyried yn ddigon o ‘glasur’ i warantu lle ar gyrsiau ysgol y dyfodol?
Un gân sy’n dod i’m meddwl yn syth yw Cwrdd â Fi Yno gan Candelas, un o’m hoff ganeuon o’u halbwm cyntaf, sy’n pentyrru trosiadau cyfoethog wrth i lanc crefu i weld ei gariad.
Ac afraid dweud, mae geiriau Bob Delyn a’r Ebillion yn gweddu’n berffaith ar gyfer y fath anrhydedd (os ellid ei alw’n hynny …), gan fod Twm Morys yn adnabyddus fel bardd eisoes. A beth am farddoniaeth hudolus Cowbois Rhos Botwnnog?
Heb os, dydw i ddim yn credu byddai cantorion fel Dafydd Iwan a Tecwyn Ifan wedi goroesi cyhyd pe na bai eu caneuon protest mor anthemig – dydw i ddim yn credu y byddai ‘Yma o Hyd’ yn gweithio fel trac offerynnol…
Gramadeg: y gair drwg yna?
Ond wrth gwrs, cwestiwn arall yw a oes angen i lyrics fod yn lân eu hiaith i fod yn farddoniaeth? Beth am ystyried, am ennyd, ieithwedd caneuon diweddaraf Blaidd. Mae ‘Nath Nhw Dal Ti’ yn erchyll i’r glust, ond yn rhywbeth bwriadol er mwyn cyd-fynd gyda natur amrwd y gân.
Mae yna nifer o ganeuon y byddwn wrth fy modd yn cael gafael arnynt a chywiro camdreigladau gyda beiro coch. (Er, dylwn bwysleisio nad yw fy ngramadeg innau’n berffaith o bell ffordd!)
Mae gwallau iaith o’r fath yn denu fy nghlust yn syth ac yn amharu ar fy ngwrandawiad o gân. Rwyf yn siŵr fod yna nifer yn fy ngheryddu yn meiddio dweud y fath beth – onid yr alaw a’r dôn sy’n bwysig mewn cân? Dyna sy’n creu naws cân wedi’r cwbl.
Mae hynny’n wir, ond mae’r geiriau yn rhan hanfodol o ganeuon da hefyd, ac ystyried am ennyd ydw i, gymaint o argraff mae geiriau cân yn ei gael arnaf i.
Cerddoriaeth yw profiad cyntaf nifer ohonom o farddoniaeth. Onid oes disgwyl felly i’r geiriau fod yn gain ac yn gyfoethog? Ystyriwch yr Arctic Monkeys, am ennyd, ac ystyried a byddent mor boblogaidd heb ddawn naturiol Alex Turner wrth ymdrin â geiriau?
Allwch chi ddychmygu un o ganeuon Yr Ods neu Sen Segur mewn cyfrol debyg i ‘Hoff Gerddi Cymru’? Na … Hmm. Am wn i, efallai mai fi sydd wedi bod yn astudio llenyddiaeth yn rhy hir, ac nid cyrraedd maes llafur yr ysgolion yw uchelgais unrhyw gerddor yn y pendraw …
Gallwch ddarllen mwy gan Miriam ar ei blog, neu ei dilyn ar Twitter ar @miriamelin23.