Mae nifer o bobol flaenllaw yng Nghymru wedi llofnodi llythyr agored yn datgan eu cefnogaeth i’r ymgyrch i ddenu pencadlys S4C i Gaerfyrddin.

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn gobeithio y bydd S4C yn penderfynu symud i safle newydd gwerth dros £8 miliwn yn y dref.

Ymhlith yr enwau sydd wedi llofnodi’r llythyr mae Archesgob Cymru, Barry Morgan, yr Arglwyddi Nick Bourne, K.O. Morgan ac Elystan Morgan, yr Aelodau Cynulliad Peter Black, Bethan Jenkins, Angela Burns, Keith Davies ac Elin Jones, a’r Aelodau Seneddol Jonathan Edwards, Nia Griffith a Simon Hart.

Mae ymgyrch Yr Egin wedi cyflwyno’u cais yn ffurfiol yr wythnos hon.

Ond mae Caernarfon hefyd yn gobeithio denu S4C i Ddoc Fictoria.

Yn y llythyr yn y Western Mail, mae ymgyrchwyr Yr Egin yn dweud y byddai “adleoli’r Sianel yn nhref hynaf Cymru yn fodd o atgyfnerthu ei statws yn genedlaethol ac yn rhyngwladol”.

Yng Nghyfrifiad 2011, dangosodd ystadegau bod llai na hanner poblogaeth Sir Gaerfyrddin yn siarad Cymraeg – y gwymp fwyaf mewn unrhyw ran o Gymru.

Ychwanega’r llythyr y gallai S4C yng Nghaerfyrddin “weithredu fel sbardun ar gyfer adfywiad ieithyddol”.

“Byddai dewis Sir Gaerfyrddin, a Rhanbarth Dinas Bae Abertawe, yn gyfle i’r Sianel ymsefydlu mewn ardal lle nad oes iddi bresenoldeb ar hyn o bryd…

“Yr ydym yn hollol argyhoeddedig, o’r holl opsiynau a gyflwynir ger bron yr Awdurdod, mai Sir Gaerfyrddin a fyddai’n sicrhau’r impact mwyaf ar Gymru a’i chymdeithas.”

Mae disgwyl penderfyniad ar ddyfodol pencadlys S4C yn y dyfodol agos.