Hannah Roberts sy’n dadlau fod yn rhaid i gerddorion fod yn ofalus ynglŷn â’u hiechyd, ac nad yw byd y gân yn un disglair o hyd …

Mae’r byd cerddoriaeth yn un sy’n creu rhyfeddodau, ond gall hefyd fod yn fyd annioddefol i rai cerddorion. Yn anffodus, nid yw’n anghyffredin i gerddorion ddioddef o fyddardod, pryder perfformiad, dibyniaeth ar gyffuriau, alcoholiaeth a phroblemau iechyd meddwl.

Sŵn byddarol

Mae sŵn yn rhan o swydd cerddor, yn amlwg. Ond gall yr offeryn yr ydych chi’n ei chwarae achosi problemau iechyd hefyd. Yn ôl gwaith ymchwil diweddar, mae’n debyg mai chwaraewyr cyrn Ffrengig yw’r mwyaf tebygol o golli eu clyw. Dim ond 18% o’r bobl a ofynnwyd yn yr ymchwil a ddywedodd eu bod nhw’n defnyddio unrhyw ffurf o amddiffyniad clustiau.

Hyd yn oed o’r 18% hynny doedd y math o amddiffyniad ddim yn briodol, a hanner ohonyn nhw wedi dweud eu bod dim ond yn ei ddefnyddio weithiau. Am swydd sydd mewn amgylchedd swnllyd ac yn seiliedig ar greu sŵn, mae’r canlyniadau hyn yn bryderus. Mae’n amlwg bod rheoli’r golled hwn yn heriol.


Hector Berlioz - dibyniaeth ar opiwm
Cyffuriau’n cydio

Yn anffodus mae dibyniaeth ar gyffuriau ac alcoholiaeth yn gyffredin yn y byd cerddorol. Dyw hyn ddim yn newydd – roedd gan Berlioz ddibyniaeth ar opiwm, cyfansoddwyr eraill fel Mussorgsky yn dioddef o alcoholiaeth, a chantorion fel Billie Holiday wedi cael problemau gyda’r ddau.

Mae clwb ofergoelus o’r enw ‘Clwb 27’ yn llawn o bobl a oedd wedi dioddef o hyn. Mae pawb sydd yn y clwb answyddogol hwn wedi ymuno â fe oherwydd buon nhw farw yn 27 oed – gan gynnwys Kurt Cobain, Amy Winehouse a Jimi Hendrix.  Roedd y rhan fwyaf ohonyn nhw wedi brwydro â dibyniaethau ar gyffuriau ac alcoholiaeth.

Cyfres newydd

Ond, yn ffodus mae gobaith.  Bydd cyfres newydd ar Sianel 4 sef ‘The Addicts Orchestra’ yn y flwyddyn newydd yn ymdrin â’r materion a thabŵs sy’n amgylchynu’r byd hwn. Bydd y prosiect uchelgeisiol hwn yn ymchwilio am natur dibyniaeth ac effeithiau ar gerddorion sy’n gwella.

Bydd deg o ddibynwyr yn nyddiau cynnar eu proses gwella yn dod at ei gilydd i ffurfio cerddorfa a fydd yn perfformio o flaen cynulleidfa mewn lleoliad arwyddocaol. James McConnell yw’r dyn (oedd yn alcoholig ei hun) sy’n gyfrifol am y syniad hwn ar ôl i’w fab Freddy, cerddor arbennig, farw o ganlyniad gorddos heroin yn 2011.

Clinig Caerdydd

Dyw popeth yn y byd hwn ddim yn anobeithiol. Yng Nghymru, mae clinigau iechyd asesu rhad ac am ddim ar gyfer perfformwyr yn ardal Caerdydd. Lleolir yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, gyda gwasanaeth yn darparu cyngor a chymorth am broblemau iechyd sy’n gysylltiedig â gwaith cerddorion.

Maen nhw’n gallu darparu gwybodaeth am gefnogaeth ariannol  os oes angen ymweld â meddygon.  Yn ogystal â hyn, efallai bod myfyrwyr cerddoriaeth llawn amser yn gymwysterol am gymorth gan y Musicians Benevolent Fund.

Mae dau wyddonydd, sef Alan Watson o Brifysgol Caerdydd a David Wasley o Brifysgol Fetropolitan Caerdydd, hefyd yn gweithio ar brosiect yn astudio effaith cerddoriaeth. Amcan y prosiect hwn yw cynhyrchu gwybodaeth newydd am ddisgwyliadau corfforol  a meddyliol wrth greu cerddoriaeth er mwyn asesu problemau iechyd a’u heffeithiau dros gyfnod o amser ac wedyn, archwilio am strategaeth effeithiol am hybu iechyd.

Dw i wedi sôn am ddim ond rhai ffactorau sy’n effeithio ar gerddorion yma, ond mae yna lawer mwy gan gynnwys ofn llwyfan, iselder ysbryd, pwysau a straen. Dylem ystyried y materion hyn wrth ganu’n hofferynnau neu wrth greu cerddoriaeth yn agored. Os anwybyddwn ni’r problemau hyn, gallem roi ein hiechyd a’n cerddoriaeth mewn perygl.

Gallwch ddarllen mwy gan Hannah ar ei blog jazzysheepbleats.com, neu ei dilyn ar Twitter ar @Tweet_The_Bleat.