Rhodri ap Dyfrig
Rhodri ap Dyfrig sydd wedi blogio ar ddyfarniad y Tribiwnlys rhwng Eos a’r BBC. Dyma ddetholiad o’i sylwadau ar gyfer Blog Celfyddydau golwg360 …
Dyfarniad Eos a’r frwydr ehangach dros fesur gwerth cynnyrch Cymraeg
Sut mae mesur gwerth?
Mae dyfarniad y Tribiwnlys Hawlfraint yn ergyd andwyol i gerddorion sy’n dewis canu yn y Gymraeg, ond mae hefyd yn ergyd yn y ddadl ehangach dros y ffordd rydyn ni’n mesur gwerth cynnyrch diwylliannol Cymraeg – o newyddion dyddiol i raglenni adloniant teledu.
Wrth graidd y ddadl Eos vs BBC mae cyferbyniad safbwynt y BBC eu bod yn mesur gwerth y gerddoriaeth yn ôl eu mesuryddion arferol (gan gynnwys RAJAR a nifer ystadegau eraill sydd yn cyfuno ymchwil cynulleidfa ac oriau darlledu), gyda safbwynt Eos, sef na ellir mesur gwerth taliadau am gerddoriaeth Gymraeg yn ôl ystadegau yn unig (ac ystadegau amheus o ran hynny) a bod eu gwerth diwylliannol unigryw yn ffactor sydd yn rhaid ei ystyried.
Ers y Daeargryn, pan gafodd gwerth S4C ei luchio i ffau’r llewod o flaen yr ymerawdwr Hunt, mae S4C hefyd yn y broses o geisio rhoi’r ddadl am fesur gwerth. Mae llawer o leisiau cefnogol i’r sianel yn nodi nad ystadegau yw diwedd y gân ond bod budd economaidd, cymdeithasol a diwylliannol yn gorfod cael eu hystyried wrth fesur llwyddiant a gwerth sianel deledu mewn iaith leiafrifol.
Ffigyrau cylchrediad
O ran y wasg brint oddi-ar-lein, mae’r cylchrediad yn parhau’n fesurydd pwysig os nad y pwysicaf; ar-lein mae’r ystadegau ‘defnyddwyr unigryw dyddiol’ yn teyrnasu. Nid oes yr un math o sôn am fesur ymwneud, am fesur ‘impact’ gwleidyddol a democrataidd, neu werthfawrogiad a gwerth ehangach diwylliannol.
Fodd bynnag, mae un gwahaniaeth bach: mae’r wasg brint Gymraeg ar y cyfan yn cael ei ariannu oddi fewn i Gymru, felly mae’n bosib dweud bod pwrpas diwylliannol yn cael ystyriaeth well na dim ond sawl sy’n prynu. Yr unig ran o’r sector brint sydd ddim yw gwefan BBC Cymru – sydd wedi cael targed cyrhaeddiad o 50k o ddefnyddwyr erbyn 2015 sydd yn ddu a gwyn iawn o’i gymharu â’r ffordd mae’r gwynt gwerthuso’n chwythu gyda S4C.
Nid ceidwad i’r iaith mo’r BBC
Nid yw’r BBC yn gweld eu rôl fel un o warchod y Gymraeg, ac nid ydynt yn gweld eu rôl fel corff sy’n gyfrifol am fesur gwerth diwylliannol chwaith. Mae’r safbwynt hwn yn honni rhyw fath o niwtraledd – dim ond gwasanaethu cynulleidfaoedd yw ein pwrpas – ond mae’n niwtraledd ffug. Sut bod S4C a’r Cyngor Llyfrau (a’r Cyngor Celfyddydau os daw at hynny) yn gallu sôn am oblygiadau diwylliannol a gwasanaethu cynulleidfa yn yr un gwynt, gan nodi’n glir bod llawer mwy i fesur gwerth na chyrhaeddiad y cynnyrch yn unig, tra bod y BBC yn methu?
Rydyn ni mewn brwydr am fesur gwerth, ac mae dyfarniad Eos yn nodi’n glir nad oes gan rai o sefydliadau canolog y DU ddiddordeb o gwbl mewn edrych y tu hwnt i’r hyn sydd yn gwasanaethu eu hanghenion hwy ar hyn o bryd. A pham fydden nhw? Achos byddai’n tanseilio model sydd wedi bodoli ers degawdau. Byddai’n ymosodiad ar y system ganoledig a’n gwanhau’r gafael ar elfen o aparatws wladwriaethol.
Yn syml, mae’r BBC yn ganolog wedi gosod her: nid chi sydd â rheolaeth dros eich diwylliant a’ch cyfryngau, ond ni.
Gallwch ddarllen blog Rhodri ap Dyfrig yn llawn, gan gynnwys mwy am adroddiad y tribiwnlys, wrth ddilyn y ddolen yma.