Nid oedd Eos yn farus wrth geisio hawlio £1.5 miliwn y flwyddyn gan y BBC am gael chwarae caneuon Cymraeg ar Radio Cymru, yn ôl Dafydd Roberts o’r asiantaeth casglu breindal.
Fe gyhoeddodd y Tribiwnlys Hawlfraint mai £100,000 y flwyddyn fydd yn rhaid i’r BBC dalu i’r corff casglu cerddoriaeth Cymraeg, Eos, am yr hawliau i ddarlledu cerddoriaeth eu haelodau.
Ac mae Dafydd Roberts wedi dweud y bydd Eos yn cynnal cyfarfod ym mis Ionawr i benderfynu beth fydd eu cam nesaf.
Swm teg i ofyn amdano
Wrth ymateb i feirniadaeth bod Eos wedi bod yn afrealistig wrth ofyn am £1.5 miliwn, dywedodd Dafydd Roberts:
“£1.2 miliwn oedden ni wedi’i bennu pan oedden ni’n cychwyn trafod efo’r BBC. Roedd y cyfreithwyr yn awgrymu dylen ni fynd am £1.5 miliwn, a dyna wnaethon ni’r cais amdano fo.”
Yn 2007, fe wnaeth y Performing Rights Society (PRS) gyhoeddi eu bod yn cwtogi’r breindal i gyfansoddwyr a cherddorion Cymraeg eu hiaith. Roedd cerddorion Cymraeg yn arfer derbyn miliynau am eu gwaith ac roedd hi’n ddigon teg bod Eos wedi gofyn swm tebyg i hyn, yn ôl Dafydd Roberts.
Fe wnaeth aelodau Eos gynnal streic ar ddechrau’r flwyddyn gan wrthod yr hawl i Radio Cymru chwarae eu cerddoriaeth.
Yn y cyfnod hwnnw, fe syrthiodd cynulleidfa’r orsaf i’w lefel isaf erioed ac nid cyd-ddigwyddiad oedd hynny, meddai Eos.
‘Ergyd i werth cynnyrch diwylliannol Cymraeg’
Mae Rhodri ap Dyfrig, sy’n arbenigwr ar y defnydd o’r Gymraeg ar y we, yn credu fod penderfyniad y tribiwnlys am gael effaith ehangach ar werth cynnyrch Cymreig:
Dywedodd yn ei flog: “Mae dyfarniad y Tribiwnlys Hawlfraint yn ergyd andwyol i gerddorion sy’n dewis canu yn y Gymraeg, ond mae hefyd yn ergyd yn y ddadl ehangach dros y ffordd rydyn ni’n mesur gwerth cynnyrch diwylliannol Cymraeg”
Ac mae Dafydd Roberts wedi dweud fod hyn yn “newyddion gwael i BBC Cymru yn ogystal ag i Eos”.
“Nid yw’n ddatrysiad – tydi’r broblem ddim yn mynd i ddiflannu. Tydi’r cyfansoddwyr ddim yn mynd i orwedd lawr a throi drosodd.”
Bydd Eos yn cynnal cyfarfod ar Ionawr 15 i drafod eu camau nesaf.