Mae Tribiwnlys Hawlfraint wedi cyhoeddi mai £100,000 y flwyddyn fydd yn rhaid i’r BBC dalu i’r corff casglu cerddoriaeth Cymraeg, Eos, am yr hawliau i ddarlledu cerddoriaeth ar BBC Radio Cymru.
Roedd Eos wedi gobeithio am gyfanswm o daliadau o £1.5m yn flynyddol gan y BBC.
Cynhaliwyd y Tribiwnlys Hawlfraint annibynnol yng Nghaernarfon ym mis Medi ar ôl i Eos a’r BBC fethu â chytuno ar delerau i chwarae’r gerddoriaeth yn gynharach eleni. Dyma’r tro cyntaf i’r Tribiwnlys eistedd y tu allan i Lundain, a chynhaliwyd rhannau o’r achos yn ddwyieithog.
Fe gyhoeddodd y BBC eu bod nhw wedi gwario £363,526.22 ar yr achos tribiwnlys.
‘Siomedig iawn’
Mae Dafydd Roberts o’r asiantaeth Eos, wedi dweud eu bod yn siomedig iawn gyda’r cyhoeddiad.
Dywedodd: “Ar ôl treulio bron iawn i 6 mlynedd yn ymgyrchu am daliadau tecach mae’n newyddion trist fod y tribiwnlys wedi methu â chydnabod gwerth yr hawliau hyn i’r diwydiant cerddoriaeth Gymraeg.
“Mae’n amlwg fod y tribiwnlys wedi trio cadw at y status quo cymaint â phosib yn hytrach na pharchu dymuniadau cyfansoddwyr a chyhoeddwyr Cymreig am dal teg.
“Calon achos y BBC oedd nad oeddynt am dalu mwy i Eos rhag ofn peryglu’r cytundeb cyfforddus rhyngddyn nhw â PRS lle mae gwerth cerddoriaeth Gymraeg yn cael ei gadw lawr fel rhan o gytundeb ‘bulk-buy’.
“Mae’r tribiwnlys wedi penderfynu ategu’r berthynas glos honno yn hytrach nag amddiffyn diwydiant cerddoriaeth frodorol Cymru.
Y cam nesaf?
Bydd y drwydded yn para am dair blynedd ac yn cychwyn o fis Chwefror ymlaen.
Ychwanegodd Dafydd Roberts fod y cyhoeddiad yn rhoi cerddorion a chyhoeddwyr Cymreig yn ogystal â dyfodol Eos, mewn sefyllfa ddifrifol iawn:
“Byddem yn cynnal cyfarfod cyffredinol arbennig mewn rhai wythnosau; mae angen i ni gymryd barn ein haelodau cyn gallu symud ymlaen.”
‘Angen i’r sefyllfa newid’
Wrth ymateb i’r cyhoeddiad dywedodd Bethan Jenkins, AC Plaid Cymru: “Mae penderfyniad y tribiwnlys yn golygu y bydd cerddorion sydd yn rhan o Eos yn derbyn setliad llawer is nag yr oeddynt wedi gobeithio.
“Mae’n hynod drist nad oedd y BBC wedi dod i setliad teg a oedd yn dderbyniol i’r cerddorion cyn i’r sefyllfa orfod cyrraedd tribiwnlys.
“Mae’n bwysig nodi nad yw cerddorion sydd yn canu drwy gyfrwng y Gymraeg yn derbyn setliad sydd yn dangos eu bod yn cael eu parchu ar yr un lefel a’r rheiny sydd yn creu cerddoriaeth drwy gyfrwng y Saesneg.
“Os ydym am weld twf cerddoriaeth drwy gyfrwng y Gymraeg yna mae angen i’r sefyllfa yma newid yn syfrdanol hyd y gwela’ i.
“Dwi’n deall bod Eos nawr yn cynnal cyfarfod brys gyda’i haelodau. Mae’n bwysig i ni wrando arnyn nhw i ddeall beth yw eu barn am y dyfarniad.”
‘Trafod telerau’
Dywedodd Sian Gwynedd, Pennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru Wales:
“Yn amlwg, fe fyddwn yn cydymffurfio â dyfarniad y Tribiwnlys Hawlfraint – penderfyniad y gwnaethon nhw gyrraedd ar ôl clywed dadleuon y ddwy ochr yn yr anghydfod.
“Yn dilyn dyfarniad y tribiwnlys rydym ni nawr mewn sefyllfa i drafod telerau manwl y cynnig gydag Eos cyn dod i gytundeb terfynol. Mae ein ffocws yn parhau ar sicrhau llwyddiant Radio Cymru i’r dyfodol a darparu’r gwasanaeth gorau posib i’w chynulleidfa.
“Mae cerddoriaeth Gymraeg yn bwysig iawn i wrandawyr BBC Radio Cymru. Mae ymrwymiad yr orsaf i gefnogi a datblygu cerddoriaeth Gymraeg yn un hirdymor – ac rwy’n falch bod y gwaith sydd wedi cael ei wneud ac sy’n parhau i gael ei wneud yn y maes hwn, wedi cael ei gydnabod yn ystod gwrandawiad y tribiwnlys.”