Joan Fontaine yn 1945
Mae’r actores Joan Fontaine, fu’n enwog am ei rhan yn ffilmiau Alfred Hitchock, wedi marw yn 96 oed.

Bu farw Fontaine, chwaer yr actores Olivia de Havilland, yn ei chartref yn Carmel, Califfornia fore ddoe.

Roedd Joan Fontaine wedi ymddangos mewn mwy na 30 o ffilmiau gan gynnwys dwy ffilm Hitchock, Suspicion a Rebecca,  ffilm Billy Wilder The Emperor Waltz, yn ogystal â The Women, a Beyond a Reasonable Doubt.

Fe enillodd Oscar am yr actores orau am ei rôl yn Suspicion.

Bu’n briod bedair gwaith ac roedd ganddi ddau o blant.