Mae’r BBC wedi dweud eu bod nhw wedi  gwario dros £363,526.22 ar yr achos tribiwnlys yn erbyn aelodau Eos.

Mae disgwyl i ganlyniad y tribiwnlys, a gafodd ei gynnal ym mis Medi, gael ei gyhoeddi heddiw a bydd yn penderfynu telerau terfynol y 297 o gyfansoddwyr Cymreig sy’n aelodau o’r asiantaeth hawliau cerddoriaeth, Eos.

Meddai adroddiadau gan y BBC bod y gorfforaeth wedi gwario £27,720 ar dyst arbenigol a bod dros £4,000 wedi cael ei wario ar gostau teithio, llety a bwyd.

Roedd y BBC hefyd wedi cyfrannu £63,000 tuag at gostau cyfreithiol Eos ac wedi rhoi £15,000 ar gyfer tyst arbenigol i’r asiantaeth hawliau cerddoriaeth.

Y cyfanswm dalodd y BBC ar y broses o gynnal tribiwnlys hawlfraint hyd yn hyn yw £363,526.22.

Cefndir

Bu aelodau Eos ar streic yn 2011 a dechrau’r flwyddyn ac fe wnaethon nhw wrthod yr hawl i Radio Cymru chwarae 30,000 o ganeuon Cymraeg oherwydd anghydfod dros faint oedden nhw’n cael eu talu.

Ond ym mis Chwefror cafodd bargen dros dro ei tharo rhwng y BBC ac Eos dros dalu breindaliadau.

Mae aelodau Eos ar hyn o bryd yn derbyn £1.60 y funud ‘am chwarae caneuon ar Radio Cymru, ond bydd canlyniadau’r tribiwnlys yn dyfarnu ar gyfradd barhaol.