Peter O'Toole fel Lawrence of Arabia yn 1963 (o lun cyhoeddusrwydd y ffilm)
Mae’r actor Peter O’Toole, seren y ffilm epig Lawrence of Arabia, wedi marw.
Roedd yn 81 oed ac wedi dioddef gwaeledd hir.
Fe wnaeth ei enw fel actor Shakespeare yn ifanc, gan chwarae rhan prif ran Hamlet a rhan Shylock yn The Merchant of Venice.
Cafodd ei enwebu am Oscar am y tro cyntaf 50 mlynedd yn ôl pan ddaeth i amlygrwydd byd-eang fel Lawrence of Arabia. Ni enillodd Oscar y tro hwnnw, nac unrhyw dro arall ychwaith – er iddo gael ei enwebu wyth gwaith dros y blynyddoedd.
Fodd bynnag, mewn cydnabyddiaeth o’i yrfa lwyddiannus, cafodd Oscar er anrhydedd yn 2003 yn 70 oed.
Mae’r Prif Weinidog David Cameron ac Arlywydd Iwerddon, Michael D Higgins, ymysg y rhai sydd wedi talu teyrngedau iddo.
“Mae Iwerddon a’r byd wedi colli un o gewri ffilm a theatr,” meddai’r Arlywydd Higgins. “Mewn rhestr hir o rannau blaenllaw ar lwyfan ac mewn ffilm, gosododd Peter safon eithriadol fel actor.
“Roedd ganddo ddiddordeb mawr mewn llenyddiaeth ac yn arbennig o hoff o sonedau Shakespeare. Fe fyddaf yn colli ei hiwmor cynnes a’i gyfeillgarwch hael.”