Gwilym Simcock
Cymry oedd ymhlith cerddorion mwya’ mentrus Gŵyl Jazz Aberhonddu wrth iddi ddod o hyd i’w thraed unwaith eto ar ôl ansicrwydd y blynyddoedd diwetha’.
Os oedd y tyrfaoedd mawr yn mynd am Jools Holland ac Acker Bilk, roedd y gwaith mwya’ diddorol yn digwydd gyda cherddorion mwy dyfesigar, fel Huw Warren o Borthmadog a Gwilym Simcock, y seren ddisglair, a welodd olau dydd ym Mhontllyfni.
Wrth orffen ei gyngerdd gyda’r siwpyrgrwp, The Impossible Gentlemen, fe apeliodd Gwilym Simcock am i bobol barhau i gefnogi’r ŵyl.
Roedd yn dda ei gweld hi mewn cystal cyflwr, meddai, gan ddweud bod gwyliau o’r fath yn hanfodol er mwyn rhoi cyfle i gerddorion chwarae.
Rhwng y trwm a’r tangnefedd
A dyna wnaethon nhw – Simcock, y gitarydd trydan Mike Walker o Salford, y basydd Steve Rodber a’r drymiwr, Mark Walker, y ddau o’r Unol Daleithiau – mewn set oedd yn amrywio o sŵn roc trwm i dynerwch tangnefeddus bron.
Hyd yn oed os oedd sain y gitâr braidd rhy gry’ ar adegau, roedd disgleirdeb Gwilym Simcock yn amlwg – ei gamp fawr ydi osgoi’r amlwg yn llwyr a phob rhediad yn ddyfeisgar ac yn chwarae gyda’r rhyddm hyd yn oed o fewn brawddegau.
Roedd dwy gân yn dangos ei allu – Barber Blues, ei addasiad ei hun o ddarn yr oedd yn ei chwarae’n hogyn ifanc, ac Ever After gan y basydd ‘hŷn’ Steve Swallow sydd weithiau’n chwarae gyda’r Boneddigion.
Roedd un yn gystadleuaeth gymhleth rhwng y ddwy law a’r llall yn enghraifft o’r sŵn defosiynol, bron, y mae Gwilym Simcock yn gallu’i greu. A Steve Rodber yn cyflawni’r gamp brin honno o gael y bas dwbl i swnio’n swynol o hardd.
Dwylo jazz dros y byd
Diolch wnaeth Huw Warren hefyd – diolch am gael cyfle gan yr ŵyl i gydweithio gyda cherddorion rhyngwladol. Ers dwy flynedd, mae wedi cael rhyddid i wneud hynny.
Y tro yma, roedd hynny’n golygu gweithio efo’r drymiwr Americanaidd, Jim Black, ymhlith eraill. A, gyda nhw yn y set yng Ngwesty’r Castell, roedd basydd ifanc o’r enw Huw V Williams – fersiwn barfog, bochgoch ychydig mwy trwsiadus o Dyl Mei.
Mae Huw Warren yn licio gosod rhyddm cry’ ymosodol ar y piano, gan ailadrodd a chryfhau, cyn i’r cerddorion setlo i amrywio a dyfeisio ar y pryd. Un o ddarnau gorau’r set oedd un gan Huw Williams, yn gyfansoddiad dyfeisgar, crwn.
Mae Huw Warren wedi dechrau gwisgo sbectol ac, felly mae’n hollol amlwg pan fydd y byrfyfyrio go iawn yn dechrau – mae’r sbecs yn cael eu rhoi o’r neilltu neu eu godi i dop y pen.
Bandiau fel hwn, a’r Impossible Gentlemen, sy’n dangos cymaint mwy cyffrous ydi jazz cyfoes o’i gymharu â phatrwm mwy traddodiadol a threuliedig yr unawdau set a’r cydchwarae rheolaidd.
Nid cyfeilio yr oedd Jim Black a Huw Williams ond canu eu llinellau eu hunain ochr yn ochr â Huw Warren a’r cyfan yn creu gwaith crwn, llawn lliw ac amrywiaethau.
Ac fel gyda Mark Walker yn y Boneddigion, nid unawdau i ddangos ei hun oedd gan Jim Black, ond rhaeadrau a thyrfe o guriadau a oedd yn rhan o gyfanwaith y darn ac yn symud y gerddoriaeth ymlaen.
Gwerin yn fyw
Roedd cywaith nesa’ Huw Warren hyd yn oed yn fwy diddorol wrth i un o’i fandiau rheolaidd, Quercus, orffen yr ŵyl yn yr Eglwys Gadeiriol.
Canu gwerin oedd sail y set, gyda’r gantores June Tabor – cantores werin y flwyddyn yn Saesneg llynedd – yn ymuno gydag ef a’r sacsaffonydd Iain Ballamy.
Llais grymus cyfoethog sydd gan June Tabor a’r drefn arferol oedd iddi hi osod y cywair gyda’r gân a’r geiriau cyn i’r ddau gerddor jazz gydio yn yr alaw a mynd â hi i lefydd newydd, dyrchafol.
Y gampwaith oedd cyfuniad o gân o’r Shropshire Lad Rhapsody gan George Butterworth (yn defnyddio geiriau A E Houseman) a Teares, gan Huw Warren ei hun.
Y gân hyn sôn am y cannoedd o fechgyn na fyddai’n dod adre’ o ryfel a June Tabor yn ei gorffen trwy ddweud hanes Butterworth ei hun, a gafodd ei ladd yn y ffosydd yn 1916. Hithau ac Iain Ballamy’n camu’n ôl a’r Cymro’n rhwygo’r tawelwch gyda dwyster anrhaethol ei gyfansoddiad yntau.
Roedd yn arwydd perffaith o’r ffordd y gall jazz gymryd at wahanol fathau o gerddoriaeth a diwylliannau a’u treulio a’u hail-siapio. (Erbyn hyn, mae Gŵyl Jazz Aberhonddu wedi datblygu’n ddathliad o jazz Ewropeaidd, gwyn yn bennaf, gyda cherddorion croenddu – etifeddion jazz y tadau – yn rhyfeddol o brin).
Roedd yna enghraifft fechan o’r llyncu diwylliannau mewn band o wahanol wledydd yn Sbaen, fel Galicia a Chatalunya, gydag arddull y fflamenco’n drwm ar y gantores pan oedd hi’n canu yn ei hiaith ei hun.
Yn Neuadd y Dref yr oedd hynny a chlybiau jazz lleol o Gymru oedd wedi trefnu holl gyngherddau’r dydd Sul yn fan’no. Trwmpedwr o’r enw Ben Thomas oedd un o sêr cyngerdd arall yn cyfuno pianydd o’r Eidal a phedwarawd Andrew Fawcett o’r Cymoedd.
Ond mwy traddodiadol oedd y bandiau hynny. Y ddau bianydd o Gymru oedd wedi dangos potensial newydd y grefft sydd hefyd yn gelfyddyd.