Gerwyn Wiliams fydd yn traddodi'r ddarlith goffa gyntaf.
Bydd darlith goffa i un o awduron mwyaf yr iaith Gymraeg, Islwyn Ffowc Elis, yn cael ei sefydlu fel rhan o weithgareddau Gŵyl Golwg ym mis Medi eleni.
Mae’r ddarlith yn cael ei sefydlu ar y cyd â Phrifysgol y Drindod Dewi Sant, ac yn cael ei thraddodi ar gampws y Brifysgol yn Llanbed lle bu Islwyn Ffowc Elis yn ddarlithydd am bymtheg mlynedd.
Gerwyn Wiliams, oedd yn gyfaill agos i awdur Cysgod y Cryman, fydd yn traddodi’r ddarlith gyntaf ar 7 Medi dan y pennawd ‘Cysgo y Ddraig.
“Mae sefydlu’r ddarlith eleni er cof am Islwyn Ffowc Elis yn amserol iawn wrth i ni nodi deng mlynedd ers ei farwolaeth” meddai’r Athro D. Densil Morgan, Profost Campws Llanbedr Pont Steffan.
“Bydd y ddarlith yn ffordd addas i nodi cyfraniad Islwyn Ffowc, nid yn unig i lenyddiaeth Gymraeg, ond fywyd cymunedol Llanbed hefyd.”
Braint
Mae Gerwyn Wiliams yn falch iawn o’r cyfle i draddodi’r cyntaf o’r darlithoedd coffa.
“Bydd yn fraint wirioneddol cael traddodi’r ddarlith gyntaf hon” meddai Gerwyn Wiliams sydd bellach yn Athro yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor.
“Roedd gen i feddwl y byd o Islwyn – roedd yn gyfaill agos pan roeddwn yn byw yn Llanbed yn y 1980au ac roedd yn gefn mawr hefyd imi’n broffesiynol.”
“Bydd y ddarlith y mynd ar ôl rhai o themâu ei nofel enwocaf, Cysgod y Cryman, yn benodol y gwrthdaro rhwng yr hen a’r ifanc ond yn symud y stori yn ei blaen i Gymru’r 1960au.”
Cynhelir y ddarlith yn ‘Stafell Sgwrsio’ Gŵyl Golwg ar bnawn Sadwrn 7 Medi, ac mae trefnwyr yr ŵyl hefyd wedi cyhoeddi rhagor o arlwy y Stafell Sgwrsio.
Bydd Alun Wyn Bevan yn holi’r actor Dafydd Hywel am ei hunangofiant fydd yn cael ei gyhoeddi yn yr hydref; sesiwn arbennig gydag enillydd Llyfr y Flwyddyn 2013, Heini Gruffydd; a sgwrs ‘Portreadu Kate’ gydag awdur cofiant Kate Roberts, Alan Llwyd.
Mae mwy o wybodaeth am y gweithgareddau ar wefan yr ŵyl.