Ffilmio Y Syrcas gyda'r eliffant yn Nhregaron
Mae dirgelwch yr eliffant sydd wedi cael ei weld o amgylch Tregaron dros yr wythnosau diwethaf wedi ei ddatrys.

Mae dau eliffant Affricanaidd wedi bod yn aros ar gyrion Tregaron wrth iddyn nhw gymryd rhan mewn ffilm deuluol newydd a fydd yn cael ei dangos ar S4C dros gyfnod y Nadolig.

Roedd amryw wedi gweld eliffant yn yr ardal gan godi cyffro ymysg trigolion Tregaron.

Mae’r ddau eliffant, Citta a Sandra, wedi bod yn cymryd eu tro i chwarae rhan yn ffilm Y Syrcas, sy’n olrhain hanes merch ifanc sy’n cael ei hudo gan y syrcas ac yn syrthio mewn cariad ag eliffant.

Dywedodd cyfarwyddwr y ffilm, Kevin Allen, sydd hefyd yn enwog am gyfarwyddo’r ffilm gomedi Twin Town: “Mae gweithio ar y cynhyrchiad hwn wedi bod yn brofiad hudolus mewn sawl ffordd. Ry’ ni wedi cael ein hysbrydoli gan dirwedd ardal Tregaron ac mae cwmni’r creaduriaid anferth yma yn sicr wedi ychwanegu at yr awyrgylch hyfryd ar y set.

“Mae wedi bod yn waith caled o ran rheoli amserlen ffilmio dynn iawn ac er bod symud yr anifeiliaid anferth o amgylch y lleoliad wedi bod yn heriol ar brydiau, ry’ ni wedi dysgu bod gweithio gydag eliffantod yn wahanol iawn i weithio ag actorion, a does dim modd eu brysio nhw!”

Hanes lleol

Mae presenoldeb yr eliffantod wedi creu cryn gyffro – yn ogystal â gosod her i’r cynhyrchwyr. Mae’r eliffantod wedi bod yn byw mewn pabell fawr gyda chryn dipyn o ardal i grwydro o gwmpas.

Ond nid dyma’r tro cyntaf i eliffantod ymweld â Thregaron. Yn ôl hanes lleol mae’n ymddangos fod syrcas wedi dod i’r ardal yn 1848 pan fu un o’r eliffantod farw. Credir ei fod wedi ei gladdu tu ôl i dafarn y Talbot, sy’n rhannol gyfrifol am ysbrydoli’r ffilm yma.

Ymysg yr actorion sy’n cymryd rhan yn ffilm Y Syrcas mae Aneirin Hughes, Saran Morgan a Damola Adelaja ac mae’r ffilm yn gymysgedd o ieithoedd a diwylliannau gwahanol gan gynnwys Cymraeg, Saesneg, Ffrangeg ac iaith Yoruba.

Dywedodd Gwawr Martha Lloyd, Comisiynydd Cynnwys S4C: “Mae Y Syrcas yn ffilm liwgar ac anturus. Mae e’n gynhyrchiad uchelgeisiol sy’n croesi sawl iaith a diwylliant, ac fe fydd ei apêl yn eang – gyda stori enwog eliffant Tregaron wrth ei hanfod.”