Bryn Terfel
Mae’r seren opera byd-enwog, Bryn Terfel, wedi datgelu sut mae pwysau ei yrfa wedi effeithio ei fywyd teuluol gan gynnwys chwalfa ei briodas â’i wraig Lesley.
Dywedodd Bryn Terfel, sy’n enedigol o Bantglas, ger Caernarfon, fod ei fywyd teuluol wedi dioddef yn enbyd yn sgil ei waith, sy’n ei dynnu i bob cwr o’r byd.
Mae Bryn Terfel newydd wahanu gyda’i wraig Lesley, ar ôl 30 mlynedd, ac mewn erthygl yn y Sunday Telegraph, dywedodd ei fod yn ddyledus iddi am fod yn gefn iddo yn ystod ei yrfa.
Meddai: “Roedd Lesley a fi gyda’n gilydd am fwy na 30 o flynyddoedd – ni fuaswn i le dwi rŵan hebddi hi. Roedd cyfnodau lle roeddwn i ffwrdd ar adegau penblwyddi, priodasau ac angladdau.”
Nid yw dyddiadur y canwr yn caniatáu iddo gael llawer o amser i ffwrdd o’r gwaith ac fe gollodd enedigaeth ei ddau blentyn cyntaf oherwydd ei waith. Meddai: “Ni fydda’i yn gallu cael yr amser yna yn ôl, ond fe wnes yn siŵr fy mod o gwmpas pan gafodd fy nhrydydd plentyn ei eni.”
Mae Bryn Terfel newydd ddathlu 20 mlynedd gyda’i label record drwy greu cwmni newydd i ddatblygu a meithrin talent newydd yng Nghymru a thu hwnt. Mae wedi arwyddo cytundeb tymor hir gyda Deutsche Grammophon i sefydlu Snowdonia Records i feithrin cantorion ifanc.
Dywedodd: “Rwyf eisiau helpu artistiaid ifanc drwy roi’r cyfle iddyn nhw recordio, yr un cyfle a gefais i pan ymunais â Deutsche Grammophon dros 20 mlynedd yn ôl.”
Mae hefyd ar fin rhyddhau albwm newydd, ‘Homeward Bound’, sy’n brosiect ar y cyd â Chôr Tabernacl y Mormon o Salt Lake City, degawd ar ôl ei berfformiad cyntaf â’r côr.