Richard ac Adam o Dreffynnon
Mae Richard ac Adam Johnson, y ddau frawd o Gymru a gyrhaeddodd rownd derfynol rhaglen Britain’s Got Talent, wedi cyhoeddi eu bod am gychwyn ar daith trwy Brydain.

Mae ‘Impossible Dream’, albwm y brodyr, sy’n dod o Dreffynnon, yn parhau i fod ar frig  siartiau’r albymau’r wythnos hon.

Mae disgwyl i daith y brodyr gychwyn fis Chwefror 2014 gan ymweld â Theatr Pafiliwn Rhyl a Chanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd yn ystod mis Mawrth.

Cyn iddyn nhw ymddangos ar y rhaglen boblogaidd, roedd Richard, 23, ac Adam, 20, yn gweithio gyda’u rhieni mewn busnes gwneud brechdanau.

Bydd y daith yn cynnwys perfformiadau o ganeuon poblogaidd amrywiol gan gynnwys caneuon o’r albwm ‘Impossible Dream’.

Dywedodd y brodyr fod eu nain wedi cael dylanwad aruthrol arnyn nhw gan eu cyflwyno i gerddoriaeth glasurol.