Ar ddiwedd prifwyl hynod o lwyddiannus yn Sir Ddinbych eleni, mae Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol wedi dweud fod yna, yn siwr o fod, “rywbeth i’w ddysgu” o adroddiad y Tasglu sydd wedi ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru.

Fe fu aelodau’r Grwp Gorchwyl a Gorffen ar ymweliad â’r maes ar Fferm Kilford ddydd Mercher, ac fe gawson nhw, ynghyd â’u Cadeirydd, eu tywys o gwmpas y cae gan Elfed Roberts.

Ond erbyn nos Sadwrn, wrth gyfrannu i raglen radio Tocyn Wythnos, roedd Elfed Roberts yn dweud y byddai’n ystyried o ddifri’ argymhellion adroddiad y Tasglu.

“Mae’r Tasglu wedi ei ffurfio, ac mi fydda’ i’n eistedd i lawr efo’r Prif Weinidog i drafod ei adroddiad,” meddai Elfed Roberts mewn ymateb i gwestiwn gan Beti George.

“Dw i’n siwr y bydd yna rywbeth i’w ddysgu ohono fo.”