Cystadleuydd sydd wedi bod ar lwyfan y Genedlaethol nifer fawr o weithiau, sydd wedi ennill y Rhuban Glas i gantorion yn Sir Ddinbych elenil.

Mae Eleri Owen Edwards yn hanu o ardal Llanrwst, ac wedi blynyddoedd yn gweithio yn y banc, mae hi bellach yn wraig fferm. Mae wedi cystadlu am y Rhuban Glas o’r blaen.

Fe ddaeth yn fuddugol yng nghategori’r llais contralto yn gynharach yr wythnos hon, cyn dod i’r brig yn erbyn y lleisiau eraill yn hwyr brynhawn Sadwrn.

Rhys Meirion oedd yn traddodi’r feirniadaeth o’r llwyfan, gan ddweud ei bod yn llawn deilwng o Wobr Goffa David Ellis.