Gyda chostau byw yn cynyddu a ninnau ar drothwy’r Nadolig, mae peidio bod yn wastraffus gyda bwyd yn bwysicach nag erioed.
Fy mwriad i eleni fydd gweld fy ngwledd Nadolig yn mynd yn bellach. Un ffordd o wneud hyn yw i ddefnyddio gweddillion y wledd fawr ar gyfer gwneud brechdan ychydig yn wahanol.
Cofiwch, er ein bod yn defnyddio gweddillion, does dim rhaid i’r bwyd fod yn ddiflas!
Does dim angen profiad coginio arnoch o gwbl i greu’r frechdan anarferol hon, dim ond chwant am ychydig o hwyl a llond bol o fwyd!
Beth fydda i ei angen?
⦁ Coes twrci
⦁ Bloomer
⦁ Menyn
⦁ Caws Saint Agur
⦁ Nionyn
⦁ 2 banasen
⦁ Cabatsen goch
⦁ 85g stwffin
Paratoi
Torrwch wyth sleisen swmpus o’r bloomer.
Torrwch nionyn yn fan
Torrwch ddarnau amrywiol eu maint o’r Saint Agur
Torrwch ddarnau o dwrci – digon ar gyfer pedwar person
Cyfarwyddiadau
Taenwch fenyn ar y bara
Llenwch y frechdan ym mha bynnag ffordd sy’n dwyn eich blas gan ddefnyddio’r cynhwysion uchod. Byddwch yn greadigol.
Ychwanegwch bupur a halen ac unrhyw saws sy’n weddill gennych ers y Nadolig, does DIM rheolau! Wedi’r cyfan, mae’r frechdan hon yn frechdan ‘ben i lawr’.
Y gost
Coes Twrci £2.75 (rhwng 4 person – pawb yn cael 175g)
Bloomer £1
Saint Agur 150g £2.75
Nionyn £0.12
2 Banasen £0.38
Stwffin £1.19
Cabatsen Goch – £0.61
Cost y pryd cyfan – £7.90
Digon i 4 person – £1.97
Mwynhewch!