Ydach chi’n cofio Toast Toppers neu Arctic Roll? Dach chi’n cofio’r tro cynta’ i chi flasu hufen iâ? Ydy arogl rhai bwydydd yn mynd a chi nôl i’ch plentyndod neu wyliau hudolus yn yr haul? Mae’r gyfres yma’n bwrw golwg ar atgofion rhai o wynebau cyfarwydd Cymru am fwyd a sut mae hynny wedi dylanwadu eu harferion bwyta heddiw. Moi Williams a Lowri Llewelyn, y ddau actor sy’n chwarae’r cymeriadau Deian a Loli yn y gyfres boblogaidd i blant ar S4C, sy’n rhannu eu hatgofion bwyd yr wythnos hon. Mae Moi yn dod o Gaernarfon a Lowri yn dod o Fangor…

Beth ydy’ch atgof cyntaf o fwyd?

Lowri: Fy hoff fwyd fel babi oedd tatws di stwnshio hefo grefi porc, ma’ hwn dal i fod yn un o fy hoff fwydydd!

Moi: Mae’n debyg mod i’n hoff iawn o uwd a bananas pan oeddwn i’n fach – ond yr atgof cyntaf sydd gen i ydi bwyta crempog siap Minions mewn gwesty yn Tenerife!

Moi a’r grempog Minions

Ydach chi’n hoffi coginio? 

Lowri: Mi rydw i’n hoffi coginio, yn enwedig shortbread Dolig hefo Nain

Moi: Mam sy’n gwneud y rhan fwyaf o’r coginio ond dw i’n mwynhau gwylio a dysgu. Dw i’n hoff iawn o wneud pwdin iogwrt a ffrwythau ffres mewn powlenni – a rhoi ychydig o siocled ar ei ben!

Beth ydy’ch hoff fwyd – y peth fysach chi ddim yn gallu bod hebddo?

Lowri: Faswn i methu byw heb basta! Dw i’n mwynhau lasagne yn ofnadwy.

Moi: Cawl Nain – sef Cawl Corbwmpen sy’n defnyddio llysiau sydd wedi eu tyfu gan Taid. Iachus a blasus!

Tasech chi’n gallu dweud “Ribidirew!” a mynd nôl at bryd o fwyd bythgofiadwy beth fyddai hynny ac yn lle?

Lowri: Fysa hi’n braf mynd nôl i Ffrainc lle’r oedd y gwesty yn gwneud y byrgyrs gora’ erioed a’r tywydd yn braf!

Moi: Cinio dydd Sul yn y Liverpool Arms ym Mhorthaethwy gyda’r teulu i gyd gan gynnwys fy nghefndryd Cai a Macsen – mae’r cyw iâr yno yn blasu’n anhygoel!

Lowri gyda’i theulu a’r ci

Pa fwyd sy’n eich atgoffa o’r Gaeaf? 

Lowri: Siocled poeth hefo marshmallows a siocled ar y top.

Moi: Stwffin! Dw i wrth fy modd efo Stwffin Cinio Dydd Sul. Ond y gaeaf dwetha fe wnaethon ni dreulio cyfnod yn Costa Rica ble roedd y bwyd yn arbennig ac yn wahanol iawn i be ‘dan ni wedi arfer ei fwyta adref yn y gaeaf. Ffrwythau ffres o’r coed – ac roeddwn i’n cael smwddi ffres pinafal a mango ar fy ffordd adref o’r ysgol bob dydd. Reis, ffa a chyw iâr bob dydd i ginio yn yr ysgol – a reis a ffa a physgodyn gyda’r nos. Roedd llawer llai o siwgr yn cael ei fwyta yn y wlad, ac fe wnes i arfer efo hynny yn eitha’ sydyn. Ond dw i yn hoffi siocled – yn arbennig siocled mint!

Moi yn cael smwddi yn Costa Rica

Beth fyddwch chi’n cael i ginio Nadolig a be ydy’ch hoff beth?

Lowri: Gŵydd i ginio Dolig a fy hoff beth ydy’r selsig wedi eu lapio mewn bacwn.

Moi: Coctel Gorgimwch, neu Prawn Cocktail ydi fy hoff beth – a bwyta lot o’r saws gyda bara menyn!

Twrci a thatws rhost, tatws stwnsh a phannas gyda ‘soch mewn sach’ a lot o grefi. A log siocled Nadolig efo digonedd o hufen i bwdin!

Lowri gyda’i chi

Oes gynnoch chi hoff rysáit?

Lowri: Teisen Banana

Un o fy hoff ryseitiau ydi teisen banana. Dw i’n helpu mam i wneud hon ers o’n i’n dair oed.

CYNHWYSION

125g o fenyn

150g o siwgr

2 fanana wedi mynd yn hen

60ml o lefrith

1 wy

Hanner llwy de o fanila

190g o flawd

1 llwy de o bowdr codi

DULL

  • Stwnsiwch y bananas efo’r llefrith, wy a fanila.
  • Toddwch y menyn a’r siwgr.
  • Ychwanegwch y gymysgedd banana at y menyn a’r siwgr. Ychwanegwch y blawd a phowdr codi. Cymysgwch yn dda.
  • Rhowch y gymysgedd mewn tun bara wedi’i leinio efo papur menyn.
  • Coginiwch ar dymheredd o 140-160 (yn dibynnu ar eich popty) am 45 munud.
  • Mae o fwya’ blasus pan mae dal yn gynnes!

 

Moi yn mwynhau cawl Nain

Moi: Cawl Corbwmpen Nain

CYNHWYSION

25g Menyn

2 lwy fwrdd olew

9-12 corbwmpen (courgette) wedi’u tafellu

1 neu 2 nionyn gwyn

Digon o stoc llysiau i orchuddio’r corbwmpenni mewn sosban

Pupur a halen (gofal!)

DULL

  • Toddwch y menyn a’r olew ar wres canolig.
  • Ychwanegwch y nionyn a’i ffrio’n ysgafn am ryw 5 munud.
  • Ychwanegwch y gorbwmpenni a’u troi yn dda efo’r nionyn a’r menyn.
  • Rhowch orchudd ar y sosban, trowch y gwres i lawr yn weddol isel a chwyswch y llysiau am ryw 20 munud neu fwy nes bod y gymysgedd wedi meddalu’n dda.
  • Ychwanegwch ddigon o stoc llysiau i orchuddio’r gymysgedd.
  • Coginiwch am ryw 15 munud ar wres cymharol isel.
  • Hylifwch nes bydd y cawl yn llyfn heb lympiau.
  • Blaswch ac os bydd angen ychwanegwch halen, a digon o bupur.

Bydd rhaglen Nadolig Deian a Loli i’w weld ar S4C ar 24 Rhagfyr am 7.20 y bore, a 7 yr hwyr