Ydach chi’n cofio Toast Toppers neu Arctic Roll? Dach chi’n cofio’r tro cynta’ i chi flasu hufen iâ? Ydy arogl rhai bwydydd yn mynd a chi nôl i’ch plentyndod neu wyliau hudolus yn yr haul? Mae’r gyfres yma’n bwrw golwg ar atgofion rhai o wynebau cyfarwydd Cymru am fwyd a sut mae hynny wedi dylanwadu eu harferion bwyta heddiw. Actor Rownd a Rownd Catrin Mara sy’n rhannu ei hatgofion bwyd yr wythnos hon. Mae hi’n byw yng Nghaernarfon…
Mae fy mherthynas i efo bwyd yn cychwyn cyn i fi gael fy ngeni, yn ôl Mam. Pan oedd hi yn fy nisgwyl i mi aeth hi o fod yn mwynhau pob math o gig i fethu edrych ar unrhyw fath o gig. A dyna gychwyn dros ugain mlynedd o wrthod yn daer bwyta fo, roedd gas gen i bopeth am y stwff.
Yn yr 80au roedd hyn yn dipyn o broblem ac yn creu cur pen i Mam druan am nad o’n i’n or-hoff o ‘pulses’ chwaith. Mi roeddwn i’n anemig ar adegau ac yn gorfod cael ffisig haearn. Mae’r blas yn dal yn ffres yn y cof. Ych. Rydw i erbyn hyn wedi bod yn bwyta cig – lleol, da – ers ugain mlynedd.
Roedd Nain yn arfer dweud na ‘TLC’ oedd y gyfrinach i fwyd blasus ond wrth deithio sioe, er enghraifft, dydy hi ddim yn bosib coginio na bwyta’r math o fwyd cyflawn, iachus, lliwgar y byddwn yn ei fwynhau fel arfer – heb sôn am TLC.
Ar ddiwedd taith, y peth cyntaf fydda i’n ei goginio ydy cawl llysiau gwyrdd. Ar adegau fel hyn mae hi’n bwysig bod yn glên efo ti dy hun.
Rhywbeth arall sy’n llythrennol yn gysur i’r corff a’r meddwl ydy tê mint. Pan oeddwn i’n disgwyl Anni a Beca roedd bara yn troi arna’i – ei arogl o’n tostio yn y bore hyd yn oed. I deimlo’n well ro’n i’n yfed tê mint. Roedd o hefyd yn help mawr i salwch bore (er na ches i o’n ddrwg).
Fy hoff fwyd ydy bwyd gwlad Thai. Mae ‘na rhywbeth arbennig am y cyfuniad a’r haenau o flasau sy’n wledd i’r holl synhwyrau. Mae’n fwyd ffres, glân, iachus a lliwgar.
Pan fydda i’n meddwl am wyliau plentyndod mae’r wlad Portiwgal yn dod i’r cof yn syth. Yma cefais ryw fath o dröedigaeth fwyd! Ro’n i’n wyth oed ac yn claddu bwyd môr fel clams [cregyn bylchog] a sardîns wedi eu barbeciwio efo halen, corgimychiaid enfawr ac octopws.
Y pryd diwethaf i mi ei goginio i ffrindiau oedd y ‘meatballs’ mwya’ bendigedig erioed…
Dyma’r rysáit, o lyfr Persiana gan Sabrina Ghayour….
Rownd a Rownd: Noswyl Nadolig 24 Rhagfyr 9pm
Hefyd Nos Fawrth 27 Rhagfyr, 8.30pm a nos Sadwrn 31 Rhagfyr am 7pm.