Bydd trefnwyr eisteddfodau’r dyfodol yn pwyso a mesur a oes lle i’r we a phlatfformau darlledu chwarae rhan bwysicach yn y tymor hir, yn dilyn llwyddiant digwyddiadau’r Eisteddfod yn ddigidol eleni.
Mae’r Eisteddfod AmGen yr wythnos hon wedi gweld digwyddiadau digidol yn unig yn hytrach na digwyddiadau byw ar y maes arferol, ac eithrio seremonïau’r Orsedd, sy’n digwydd heb gynulleidfa yn Sgwâr Canolog, Caerdydd.
Gyda’r Eisteddfod yn gobeithio dychwelyd i’r Maes arferol y flwyddyn nesaf, mae’n bosib y bydd yr elfennau digidol hyn yn cael eu hymgorffori yn y trefniadau traddodiadol i geisio cynyddu’r arlwy sydd ar gael.
‘Cryfhau’r opsiynau’
Mae golwg360 wedi bod yn holi nifer sydd ynghlwm â threfniadau Eisteddfod Tregaron 2022 i weld beth yw eu barn nhw am hynny.
Mae Deian Creunant, is-gadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Tregaron, yn dweud ei bod hi’n bosib y bydd rhai elfennau digidol yn yr Eisteddfod flwyddyn nesaf.
“Mae’n gynnar i ddweud os bydd newidiadau, achos dydyn ni heb gael trafodaeth fanwl hyd yn hyn,” meddai wrth golwg360.
“Yn sicr, byddwn ni’n ystyried beth sydd wedi digwydd eleni a’r flwyddyn ddiwethaf, a gweld os oes modd ymgorffori hynny i mewn i Eisteddfod fwy traddodiadol.
“Yn amlwg, mae wedi bod yn anodd iawn cynllunio wrth ystyried [sefyllfa’r pandemig], a bydd rhaid inni gael gwybodaeth gan yr Eisteddfod am beth sydd wedi gweithio’n ddigidol.
“Does dim digon o wybodaeth eto i wneud penderfyniadau.”
Mae hefyd yn nodi bod modd cael mwy o gynulleidfa drwy gynnal rhai digwyddiadau ar-lein.
“Efallai bydd rhai o’r pwyllgorau testun yn gweld bod hyn neu’r llall yn gweithio’n dda,” meddai.
“Byddai’n rhaid ystyried wrth gynnal sesiynau byw yn rhithiol achos byddai’n agor y potensial o ran cyfranwyr posib.
“Wedi dweud hynny, mae’r archwaeth yna i gael rhywbeth ffisegol yn ôl ar y maes, felly bydd rhaid inni weld sut allwn i wau popeth â’i gilydd.
“Dydw i ddim yn poeni’n ormodol wneith y maes ei hun ddioddef, achos mai cryfhau’r opsiynau ac ehangu’r gynulleidfa mae cynnal pethau’n ddigidol.”
‘Gwell gan bobl’ weld cystadlu byw
Mae rhai cystadlaethau arloesol wedi gallu digwydd eleni gan ddefnyddio technoleg, ac mae potensial i’r rheiny gael eu hychwanegu at raglen yr Eisteddfod, ond mae angen i’r mwyafrif o gystadlaethau aros yn rhai byw, yn ôl Deian Creunant.
“Eto, byddwn ni’n disgwyl i weld beth mae’r Eisteddfod yn ei awgrymu – mae’n bosib y byddai’n gallach ac yn well cynnal rhai cystadlaethau ar-lein i agor y potensial o ran cystadleuwyr.
“Ond o fy mhrofiad i, mae’n well gan bobol weld y rhan fwyaf o’r cystadlu’n digwydd yn fyw oherwydd mae’n cyfrannu at ysbryd yr ŵyl.”
Gyda seremonïau’r Orsedd yn cael eu cynnal yn hwyr yn y nos yn hytrach na’r prynhawn, mae Deian yn awgrymu y byddai cadw hynny at y dyfodol yn tarfu ar raglen hwyr yr Eisteddfod.
“Byddai hynny’n effeithio ar y digwyddiadau nos wrth gwrs,” meddai.
“Mae’r digwyddiadau hynny, fel Gig y Pafiliwn neu ddigwyddiad comedi, wedi ennill eu plwyf, a byddai’n annheg newid hynny.
“Maen nhw wedi gorfod gwneud seremonïau yn wahanol eleni i ddenu cynulleidfa deledu, ond byddai’n drist colli’r digwyddiadau nos hynny y flwyddyn nesaf ar draul yr Orsedd.”
‘Dw i’n foi traddodiadol!’
Mae Arwel Jones, cadeirydd Pwyllgor Cyllid a Chronfa Leol Eisteddfod Ceredigion 2022, yn gwerthfawrogi’r trefniadau eleni, ond yn teimlo bod bylchau wedi eu gadael o ohirio’r eisteddfod arferol.
“Mae’r Eisteddfod AmGen wedi bod yn beth da i godi ymwybyddiaeth o’r Eisteddfod flwyddyn nesaf, yn lle bod pobol yn anghofio amdani,” meddai wrth golwg360.
“Wrth edrych ar seremonïau’r Orsedd, bydd pob un yn teimlo dros y beirdd sy’n gorfod codi.
“Dim ond eu teuluoedd nhw oedd yna, yn hytrach na 2,000 o bobol mewn pafiliwn, a phan mae’r Orsedd lawn yna, mae hynny’n ychwanegu cymaint o awyrgylch i’r rhai sy’n fuddugol.
“Dw i’n credu bod yr Eisteddfod AmGen yn dda iawn, ond mae hi’n dangos beth ydyn ni’n ei golli trwy beidio â chwrdd.”
Wrth ystyried technoleg ddigidol yn plethu i mewn â threfn arferol yr Eisteddfod, byddai’n well ganddo pe bai’r Eisteddfod yn parhau fel yr oedd hi cyn y pandemig.
“Dw i’n foi traddodiadol,” meddai.
“Dw i wedi bod yn mynd i’r Eisteddfod ers deugain mlynedd ac yn gyfarwydd â cherdded o gwmpas y maes.
“Mae’r elfennau digidol wedi bod yn wych i gadw pethau i fynd, ac i gael pobol i siarad am yr Eisteddfod.
“Mae cymaint o bobol wedi bod yn bles i’w gweld ar y teledu ac ar y radio, ond fydden ni ddim eisiau i hynny barhau.”
Gan nad oes sicrwydd y bydd yr Eisteddfod yn digwydd yn union fel yr arfer y flwyddyn nesaf, mae’n gobeithio’n fawr na fydd cyfyngiadau ar y niferoedd sy’n mynychu.
“Rydyn ni eisiau eisteddfod arferol, a bod dim cwtogi ar y niferoedd sy’n troi lan,” meddai.
“Dydyn ni chwaith ddim eisiau gorfod cadw o fewn cyfyngiadau i’r niferoedd – dyna yw’r gofid mwyaf inni.”