Casgliad o gerddi am Gaerdydd ddaeth i’r brig yng nghystadleuaeth y Goron neithiwr (4 Awst), wrth i Dyfan Lewis gipio’r wobr gan ddweud wrth golwg360 ei fod e wedi bod eisiau archwilio’i berthynas â’r brifddinas.
Wedi byw yno ers bron i ddegawd, penderfynodd fynd ati i greu casgliad a cheisio deall beth yn union yw ei berthynas â’r ddinas honno.
Daw Dyfan Lewis yn wreiddiol o Graig-cefn-parc, Abertawe, ac mae’n wyneb newydd ar lwyfan seremonïau gorseddol y Brifwyl.
Fel bardd sydd wedi cyhoeddi dau bamffled o’i waith gyda’i wasg ei hun, Gwasg Pelydr, aeth ati i gystadlu am y Goron er mwyn ceisio ymuno â’r traddodiad o gydnabyddiaeth i gelfyddyd y mae ei hennill yn ei gynnig.
Daeth 19 o geisiadau i law, ac roedd y beirniaid – Aled Lewis Evans, Elan Grug Muse ac Elinor Wyn Reynolds – yn uchel eu canmoliaeth o waith Dyfan Lewis.
Cyfres am Gaerdydd
Roedd y casgliad yn cyrraedd y Dosbarth uchaf “yn ddiamheuol”, ac mae posib gweld gallu’r bardd i “grisialu rhin ac addewid a dirgelwch Caerdydd o oes i oes” drwy’r cerddi, meddai Aled Lewis Evans.
“Casgliad o gerddi am Gaerdydd ydyn nhw,” meddai Dyfan Lewis wrth golwg360.
“Dw i bron â bod nawr wedi byw yma ers degawd, ac roeddwn i’n meddwl mod i isie creu casgliad oherwydd hynna, fyddai’n archwilio fy mherthynas i â’r lle a thrio dod i ddeall beth yn union yw fy mherthynas i gyda Chaerdydd.
“Gobeithio bod y cerddi’n dangos hynny.”
Ysgrifennu cyfres o gerddi ar y pwnc ‘Ar wahân’ oedd y dasg eleni, a bydd rhaid i’r darllenwyr benderfynu dros eu hunain sut mae’r pwnc hwnnw’n plethu i gerddi Dyfan Lewis, meddai.
“Dw i ddim eisiau dylanwadu gormod ar y ffordd mae pobol yn gweld pethau.”
‘Cydnabyddiaeth’
Er bod ei dad, y Prifardd Emyr Lewis, wedi ennill Coron a Chadair yr Eisteddfod Genedlaethol, roedd ennill y Goron yn “reit annisgwyl”, meddai Dyfan Lewis.
“Pan wnaeth y newyddion ddod trwy Elen Elis, trefnydd yr Eisteddfod, roeddwn i’n meddwl ei bod hi jyst yn ffonio fi ynglŷn â rhywbeth arall,” meddai.
“Roeddwn i’n gwneud rhywbeth arall gyda’r Eisteddfod, ac roeddwn i’n meddwl bod angen i fi anfon rhywbeth mewn iddi ac yn meddwl ‘Dyma ni, mae hi’n mynd i roi row i fi am rywbeth!’
“Ond y newyddion yna oedd e, felly roedd e bach o sioc.
“Dw i’n falch fod y tri beirniad wedi bod yn gytûn wrth gwrs. Mae’n haws i fi os mae hwnna wedi digwydd, a haws iddyn nhw siŵr o fod – pawb yn hapus.
“Mae’r Goron yn rhywbeth mae lot o feirdd yng Nghymru eisiau cael gafael arni, a dw i ddim unrhyw wahanol â dweud y gwir.
“Mae’n gydnabyddiaeth ar gyfer gwaith, ar gyfer celfyddyd, ac mae yna draddodiad i’r gydnabyddiaeth yna, felly ti’n mynd amdani’n gobeithio dy fod di’n ennill ac yn ymuno gyda’r traddodiad yna.
“Dw i wedi bod mewn o lot seremonïau Coroni a Chadeirio dros y blynyddoedd, roedd neithiwr yn wahanol ond roedd yr Orsedd, chwarae teg iddyn nhw, a’r Steddfod a’r BBC wedi gwneud gwaith arbennig i wneud awyrgylch a naws cynnes.
“[Roedd hi] bron â bod yn siwtio fi’n well bod llai o bobol yna, dw i ddim yn siŵr. Ond ro’n i wedi mwynhau.”
Croesawu celfyddyd
Mae Dyfan Lewis yn gyfrifol am guradu creiriau.cymru, drwy Wasg Pelydr, sy’n “labyrinth o gelfyddyd”.
Mae’r labyrinth ar gyfer beirdd, llenorion, artistiaid, cerddorion, ac mae Dyfan Lewis yn awyddus i gynnwys gemau fideo yno hefyd yn y dyfodol.
Wrth ymweld â’r wefan, mae posib cael eich arwain o un darn o gelfyddyd i’r nesaf – i gyd yn plethu gyda’i gilydd ac yn ymateb i weithiau blaenorol.
“Unrhyw ddarn o gelfyddyd mae rhywun yn ei greu, rydyn ni’n ei groesawu,” meddai.
“Rydyn ni eisiau bod mor agored â phosib yn croesawu celfyddyd gan bobol fel bod e’n rhan o’r labyrinth, yn ymateb i’r gwaith sydd yno’n barod.”
Wrth ei waith bob dydd, mae Dyfan Lewis yn gweithio i Ynni Cymunedol Cymru, gan edrych ar ôl buddiannau eu haelodau – sef sefydliadau a mudiadau ynni cymunedol ledled Cymru.
“Mae Ynni Ogwen yn un enghraifft amlwg efallai,” meddai.
“Beth wnaethon nhw fel cymuned oedd prynu system hydro i fynd ar yr afon. Mae pob un wnaeth dalu mewn i hynna’n cael arian yn ôl ar eu buddsoddiad nhw, so maen nhw ar eu hennill.
“Mae unrhyw elw sy’n dod o’r hydro yna’n mynd yn ôl mewn i’r gymuned, yn galluogi nhw i brynu ceir trydanol, neu adnewyddu clwb rygbi, neu adeiladu adeiladau tu fas ar gyfer yr ysgol neu beth bynnag.
“Yr aelodau sydd wedi prynu’r cyfranddaliadau sy’n cael dewis lle mae’r elw yna’n mynd.
“Felly mae’r holl fudd yna sy’n dod allan o’n hadnoddau naturiol anhygoel ni yng Nghymru yn aros yn ein cymunedau, yn hytrach na mynd i rywle arall.”
Fe fydd golwg360 yn cyhoeddi holl ganlyniadau’r seremonïau yr wythnos hon, a bydd gweddill y seremoniau’n cael eu cynnal fel a ganlyn:
Nos Iau, 5 Awst, 8yh – Seremoni’r Prif Lenor Rhyddiaith
Nos Wener, 6 Awst, 8yh – Y Cadeirio