Llyfr deiniadol sy’n tynnu’r llygad yn syth. Hollol addas i’w roi yn anrheg Nadolig. Ac mae’n apelio at bob oedran, efo ryseitiau yn amrywio o’r traddodiadol i rai newydd a chyfoes.

Mae’r llyfr yn hawdd ei ddeall a’i ddilyn ac, mae’n addas at gynulleidfa iau gan fod yna esboniad trylwyr i’r twtsh ola’ ar bob rysait ac adran sy’n dangos yn ofalus pa gynhwysion ac offer fydd eu heisiau er mwyn creu’r amrywiaeth o gacennau blasus.

Mae’n amlwg fod y casgliad o ryseitiau wedi cael ei ystyried yn ofalus gan fod yna rhywbeth bach i bawb. Un o’r adrannau mwya diddorol yw’r Hen Ffefrynnau gyda nifer o ryseitiau wedi cael eu pasio i lawr gan ei mam a’i nain. Mae’n disgrifio dylanwad ei theulu arni dros y blynyddoedd ac yn enwedig wrth ei chefnogi a’i hysbrydoli hi i ysgrifennu’r holl ryseitiau.

Mae cacennau bach yn arbennig wedi dod mwy ffasiynol yn ddiweddar – maen nhw’n gymharol rhwydd i’w gwneud ac mae modd creu amrywiaeth o wahanol rai i roi gyda’i gilydd. Gall cacennau bach gael eu ddefnyddio ar gyfer pob achlysur, beth bynnag yw’r dathliad.

Mae’r llyfr yma yn gwbwl addas i berson â dant melys, naill ai’n ddechreuwyr neu’n brofiadol yn y maes ac mae yna sawl awgrym defnyddiol wedi eu hychwanegu i greu gorffeniad taclus a perfaith.

Dydy Elliw Gwawr ddim yn ceisio bod yn maestro yn y maes coginio, y cyfan y mae’n ei wneud yw rhannu’r llawenydd a’r mwynhad y mae’n ei gael wrth bobi.

Paned a Chacen, Elliw Gwawr, Y Lolfa, £14.95