Mae pum achos newydd o glefyd y coed ynn wedi cael eu darganfod yng Nghymru, gan gynnwys yr un cyntaf yng ngogledd Cymru.

Bu un achos mewn coed oedd newydd eu plannu yng Nglynllifon ger Caernarfon, a phum achos arall yn ardal Coed Gwent a Dyffryn Gwy yn ne-ddwyrain Cymru.

Mae coed ifanc ar y pum safle wedi cael eu codi a’u difa er mwyn atal y clefyd rhag lledaenu.

Cafodd yr achos cyntaf o glefyd y chalara ei ddarganfod mewn coedlan breifat yn Sir Gaerfyrddin bythefnos yn ôl, ac mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru ar hyn o bryd yn cynnal arolwg o safleoedd ble cafodd coed ynn o feithrinfeydd heintus eu plannu.

Dywedodd Gweinidog Amgylchedd Cymru fod y Llywodraeth yn cymryd y clefyd o ddifrif ac yn cydweithio gydag adrannau ar draws y Deyrnas Gyfunol er mwyn atal lledaeniad y clefyd.

“Nid yw clefydau coed yn parchu ffiniau gwledydd ac mae angen i ni ddarparu ymateb cyson i’r bygythiad,” meddai.

Mae mewnforio coed ynn i Brydain wedi cael ei wahardd ac mae’r cyhoedd yn cael eu hannog i beidio symud coed ynn ifanc, na’u hadau.

Mae’r goeden onnen yn un gyffredin iawn yng Nghymru ac mae 15,348 hectar o goed ynn yn y wlad, sef 5% o holl goedlannau Cymru.

Nid yw clefyd y chalara yn peri risg i bobol nac anifeiliaid.