Mae perchennog y Daily Mail wedi cytuno i werthu ei adran bapurau lleol i fenter newydd am £52.5 miliwn.
Mae Daily Mail & General Trust wedi gwerthu’r adran Northcliffe Media i’r fenter newydd Local World a fydd yn cynnwys dros 100 o bapurau newydd rhanbarthol.
Fe fydd hefyd yn cyfuno asedau papurau newydd lleol Iliffe News & Media.
Mae Trinity Mirror – sy’n berchen y Western Mail a’r Daily Post – am brynu cyfran o 20% yn Local World am £14.2 miliwn.
Fe fydd y grŵp newydd yn cynnwys 16 o bapurau newydd dyddiol, 36 o rai wythnosol sy’n rhaid talu amdanyn nhw, 40 o deitlau wythnosol sy’n rhad ac am ddim, a dau bapur Metro. Ymhlith y rhain mae’r South Wales Evening Post, Llanelli Star a’r Carmarthen Journal.
Hefyd, fe fydd yn cyhoeddi portffolio o 63 o wefannau lleol, gyda bron i saith miliwn o ddefnyddwyr yn fisol.
Pennaeth Northcliffe, Steve Auckland fydd prif weithredwr Local World a David Montgomery, cyn bennaeth Mirror Group Newspapers yn gadeirydd.
Fe fydd Local World yn cyflogi 2,800 o bobl.
Dywedodd Daily Mail & General Trust (DMGT) y byddai’n siarad gyda’r gweithwyr fydd yn cael eu heffeithio gan y gwerthiant ond nad yw’n rhagweld y bydd mwy na 100 yn colli eu swyddi.
Daw’r cytundeb wrth i bapurau lleol ddioddef oherwydd y cwymp mewn hysbysebion sydd wedi gorfodi nifer o grwpiau i gau rhai papurau a diswyddo staff.