Mae’r rhan fwyaf ohonom yn gyfarwydd â’r Margarita, y pitsa peperoni, llysieuol neu bitsa bwyd môr… Felly dyma fentro ar rywbeth ychydig yn wahanol. Ac yn wir, mae’n dipyn o ffefryn. Dyma flas o India dw i wedi’i greu ar bitsa! Mae’r rysáit i’m blas personol i. Gallwch reoli y sbeis neu’r tân i’ch ffansi eich hun. Mwynhewch!
Bydd angen:
Sylfaen Pitsa Paneer / Mozzarella
Spigoglys
Tsili
Cyw iâr
Nionyn
Garlleg
Olew
Cumin
Paprika
Plu tsili chipotle
Coriander sych (Mayonnaise iogwrt a mintys)
Paratoi:
Gosodwch y paneer mewn dŵr cynnes am ryw 20 munud cyn ei goginio
Torrwch y tsilis yn fân a’u rhoi i’r ochr (mae rhai yn dewis hepgor yr hadau – dydw i ddim)
Torrwch nionyn gwyn a’i roi i’r ochr
Torrwch spigoglys a’i roi i’r naill ochr
Pliciwch ddau segment o’r garlleg a’u rhoi i’r naill ochr
Gosodwch y cyw iâr mewn powlen a thywallt digonedd o olew drosto, dwy lwy fwrdd o cumin, paprika, plu tsili chipotle a choriander sych.
Cymysgwch y cyfan a’i osod i farineiddio yn yr oergell am o leiaf awr.
Coginio
Gosodwch y cyw iâr wedi’i farineiddio yn y popty ar nwy 6 am 30-35 munud.
Tynnwch y paneer o’r dŵr a’i sychu gyda thywel cegin cyn ei dorri yn ddarnau.
Gosodwch y darnau ynghyd â mozarella ar sylfaen y pitsa.
Gwasgwch y garlleg a’i wasgaru’n deg dros y pitsa cyfan.
Gosodwch y cyw iâr sydd wedi’i goginio ar y gwely o gaws a garlleg, ynghyd â tsilis ffres, nionyn a sbigoglys.
Gosodwch y pitsa yn y popty ar wres canolig am ryw 10 munud.
Pan fydd y caws wedi meddalu a’r crwst yn grensiog, gwasgarwch bupur a halen dros y cyfan gyda mayonnaise iogwrt a mintys (os hoffech chi – dewis yw hyn).
Does dim wedyn i’w wneud ond mwynhau eich tamaid blasus o India!