Mae’r gyfres yma’n bwrw golwg ar atgofion bwyd rhai o wynebau cyfarwydd Cymru a sut mae hynny wedi dylanwadu eu harferion bwyta heddiw. Maggie Ogunbanwo, sylfaenydd y cwmni Maggie’s African Twist, sy’n dod â blas o Affrica i Gymru, sydd wedi bod yn rhannu ei hatgofion bwyd yr wythnos hon.
Mae Maggie yn dod o Nigeria yn wreiddiol, ond bellach yn byw ym Mhenygroes ger Caernarfon yng Ngwynedd, ac wedi dysgu Cymraeg. Mae hi wedi ysgrifennu dau lyfr coginio, The Melting Pot ac African Twist, ac yn aml i’w gweld mewn gwyliau a ffeiriau bwyd yn gwerthu ei sawsiau a sbeisys…
Dw i’n credu mai fy atgof cynharaf o fwyd oedd pan oeddwn i tua thair oed, yn gwylio’r coginio yn cael ei wneud y tu allan ar danau coed, mewn potiau mawr du, wrth baratoi ar gyfer parti mawr. Roedd mwg yn fy llygaid ac arogl anhygoel y stiw a reis Jollof, a sŵn y winwns yn ffrio yn yr olew poeth, a llwyth o dodo [plantain, sef math o ffrwyth tebyg iawn i fanana] yn cael ei ffrio. Dw i hefyd yn cofio fy mam a Nana yn gwneud Puff Puff [byrbryd melys, traddodiadol yn Affrica].
Mae fy mhrofiadau cynnar efo bwyd wedi cael dylanwad mawr ar sut dw i’n bwyta rŵan, mewn sawl ffordd. Mae dylanwad Nigeria ar fy nghoginio, ond oherwydd bod fy mam a Nana yn coginio seigiau Cameroun, a fy mam wedi’i hyfforddi mewn arlwyo gyda City & Guilds, roeddwn i wedi cael blas o bob math o fwydydd o oedran cynnar iawn. Mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn y ffordd dw i’n coginio ac yn bwyta rŵan.
Dw i’n hoffi bwydydd melys ac roedd fy mam yn bobydd gwych, felly dw i’n gorfod trio osgoi’r demtasiwn o fwyta cacennau bach, y math efo eisin a sprinkles.
Dw i wastad yn dweud mai fy mhryd delfrydol yw un sydd wedi cael ei goginio i fi gan rywun arall, efallai yn rhywle efo traeth braf lle dw i ddim yn gorfod golchi fyny wedyn!
Yn Nigeria, roedden ni’n bwyta’n dymhorol felly mae ffrwythau a llysiau ffres wastad yn atgoffa fi o’r haf – bananas, pawpaw a mangos yn cael eu tynnu’n syth o’r goeden lle’r oedden ni’n byw, a blas y lemwn ffres oedden ni’n defnyddio yn ein rysáit ar gyfer Lemon Sunshine Cookies. Ond mae fy atgofion o’r gaeaf i gyd am y Deyrnas Unedig – dw i’n cofio fy mam yn gwneud lobsgóws i ni ambell waith yn Nigeria fel trit arbennig. Mae stiwiau a lobsgóws yn atgoffa fi o gynhesrwydd, tanau ac amseroedd da gyda fy nheulu, yn y wlad hon ac yn Nigeria.
Os dwi’n paratoi bwyd i bobl dw i ddim wedi coginio iddyn nhw o’r blaen, reis ydy’r dewis cyntaf bob tro. Fel arfer, reis Jollof neu reis Nigeriaidd wedi’i ffrio gyda chyw iâr Naija sbeislyd a stiw Naija wedi’i weini gyda dodo, a llysiau wedi’u grilio. Fe fydd o leiaf un peth i bawb ei fwynhau.
Roedd sawl llyfr coginio yn ein cegin pan o’n i’n tyfu fyny oherwydd yr hyfforddiant arlwyo gafodd mam – ond wnes i eu gadael ar ôl. Dw i’n cofio mynd i chwilio am Mrs Beeton’s Cookery Book sawl blwyddyn yn ôl achos roedd yn un oedd yn cael ei ddefnyddio’r aml yn ein tŷ ni. Dw i wedi trio ail-greu nifer o fy hoff ryseitiau o’r cyfnod pan ro’n i’n tyfu fyny yn fy llyfrau coginio The Melting Pot ac African Twist a dw i’n credu mai fy hoff rysáit ydy’r un ar gyfer Puff Puff.
Rysáit Puff Puff
Cynhwysion
450ml o seidr lleol (y gorau dw i wedi ei ddarganfod ydy Blighty Booch Kombucha)
½ pecyn o furum cyflym
100g siwgr
Pinsied o nytmeg wedi’i falu
500g blawd plaen
Dull
Cymysgwch yr holl gynhwysion gyda’i gilydd mewn powlen fawr am ychydig funudau nes eu bod wedi’u cyfuno’n iawn. Tua phum munud.
Gorchuddiwch y bowlen gyda lliain sychu llaith ond gadewch digon o le i’r gymysgedd ehangu (bydd clingfilm gyda thwll ynddo yn gweithio’n iawn).
Gadewch mewn lle cynnes nes ei fod wedi dyblu mewn maint (neu, yn ddelfrydol, dros nos).
Cynheswch yr olew mewn sosban ddofn neu ffriwr saim dwfn a rhowch lwy fwrdd o’r gymysgedd yn yr olew pan fydd yn ddigon poeth. Peidiwch â rhoi gormod yn yr olew ar yr un pryd.
Ffriwch y puff puff ar un ochr nes ei fod yn frown golau ac wedyn ei droi drosodd a ffrio ar yr ochr arall.
Tynnwch y puff puff o’r olew a’u draenio. Rhowch siwgr drostyn nhw. Dw i wedi eu gweini o’r blaen gyda saws siocled tsili Maggie’s ac roedden nhw’n flasus iawn.