Gallai “difrod anadferadwy” gael ei achosi i’r diwydiant da byw pe na bai modd atal y gostyngiad yn nifer y diadelloedd a ffermydd yng Nghymru, yn ôl cadeirydd Hybu Cig Cymru.

Mae Cath Smith wedi bod yn annerch digwyddiad brecwast blynyddol Sioe Llanelwedd heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 22), gan ddweud y “byddai unrhyw grebachu pellach yn niferoedd y da byw yn niweidio ein diwydiant i raddau na ellid ei adfer”.

“Nid yw’n or-ddweud y gallai colli mwy o ffermydd cynhyrchiol fod yn drychinebus i’n sector,” meddai, gan dynnu sylw at y ffaith fod y rhwydwaith o 20,000 o ffermydd cig coch teuluol yng Nghymru yn sail i economi, cymunedau, diwylliant ac iaith ein gwlad.

“Gyda’n gilydd, rydym yn gynhyrchydd enfawr o gynnyrch gwirioneddol wych – ond rhaid i chi sylweddoli hefyd fod y diwydiant hwn ar groesffordd bwysig.

“Ni allaf bwysleisio’n ddigon cryf pa mor hanfodol yw hi i ni ddiogelu ein niferoedd presennol.”

Gostyngiadau

Dywedodd Cath Smith fod effeithiau economaidd allanol eisoes wedi bod yn ddylanwad.

“Mae’r màs critigol i lawr ledled Cymru; mae’r data diweddaraf yn awgrymu bod cyfanswm y defaid ac ŵyn ar ffermydd Cymru yn 8.7 miliwn – sydd saith y cant yn is na’r niferoedd a gofnodwyd y flwyddyn flaenorol,” meddai.

“Roedd nifer yr ŵyn yng Nghymru yn ystod yr un cyfnod, sef 4.1 miliwn, i lawr 10% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

“Mae ein màs critigol o niferoedd y ffermydd a da byw yn sicrhau ein bod ni’n gallu rhoi digon o gig coch GI o’r safon uchaf yn y siopau ac ar fyrddau bwyd teuluoedd ledled y Deyrnas Gyfunol – ac, wrth gwrs, ledled y byd.

“Mae pob gwerthiant allforio yn bwysig, oherwydd mae’n helpu i gael y cydbwysedd carcas sy’n hanfodol i gael y gwerth gorau ar gyfer pob anifail cig oen neu gig eidion a gynhyrchir yng Nghymru.

“Mae hefyd yn diogelu’r prisiau uwch sydd eu hangen arnom ar gyfer enillion ein ffermydd a goroesiad economaidd.

“Nid yw’n frawychus dweud, pe na bai marchnadoedd allforio yn prynu toriadau nad ydynt mor boblogaidd yn y Deyrnas Gyfunol, ni fyddai’r farchnad gartref yn gweithio.

“Màs critigol cynhyrchiant diwydiant cig coch Cymru – a’i weithgarwch bywiog o ran allforio – oedd y colofnau deuol y “mae’n rhaid inni eu cadw’n gryf os ydym am ddiogelu dyfodol ffermio ein cenedl – ac roedd y ddau yn dibynnu’n helaeth ar eu sylfeini amddiffynnol, sy’n cynnwys cryfder cyfunol adnoddau, profiad ac arbenigedd HCC – a sicrwydd darpariaeth.”

‘Gwahaniaeth diamheuol’

Dywedodd Cath Smith wedyn fod Hybu Cig Cymru, mewn 21 mlynedd, wedi esblygu o fod yn syniad gwych i fod yn sefydliad gwych a’i fod wedi gwneud gwahaniaeth diamheuol ac amlwg i ffermio.

“Gyda’n gilydd rydym wedi adeiladu system gymorth i’r gadwyn gyflenwi sydd yn effeithlon, yn gryf ac yn gost-effeithiol dros ben,” meddai.

Diolchodd ymhellach i staff HCC am eu gwaith rhagorol.

“Mae eu ffocws, eu penderfyniad, eu hymroddiad a’u diwydrwydd wedi cynhyrchu canlyniadau a chyflawniadau syfrdanol,” meddai.

“Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, gyda phrofiad ein staff a chynllun strategol ein diwydiant, bydd Hybu Cig Cymru yn ymdrechu i greu newid a’ch cynorthwyo chi i adeiladu diwydiant cig coch cryf, gwydn a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol.”