Dywed Cymdeithas yr Iaith mai’r “sicrwydd mwyaf bod bwriad gosod Safonau Iaith yw eu cyflwyno”.
Yn ei chyfnod blaenorol yn Weinidog â chyfrifoldeb dros y Gymraeg ar ran Llywodraeth Cymru, cyhoeddodd Eluned Morgan na fyddai Safonau pellach yn cael eu cyflwyno.
Fodd bynnag, mae’r Llywodraeth wedi cadarnhau bod bwriad “parhau i ddilyn y rhaglen waith ar gyfer cyflwyno safonau’r Gymraeg”, ond y sicrwydd mwya o’r bwriad hynny, yn ôl Cymdeithas yr Iaith, yw dechrau eu cyflwyno yn syth.
Dywed Siân Howys, Cadeirydd Grŵp Hawl i’r Gymraeg Cymdeithas yr Iaith, fod ymgynghoriad ar hyn o bryd i gyflwyno Safonau ar nifer fach o gyrff cyhoeddus.
“Tra bod hyn i’w groesawu, mae angen cyflwyno Safonau ar gyrff sy’n effeithio ar fywydau pobol o ddydd i ddydd – darparwyr ym maes iechyd a gofal, cwmnïau dŵr, trydan, ffôn ac ati,” meddai.
“Mae hyn o fewn gallu’r Llywodraeth nawr.
“Mae digon o enghreifftiau diweddar o’r angen i ehangu’r Safonau i’r sector breifat hefyd – does dim un banc yn cynnig gwasanaeth Cymraeg ar-lein ac yn lle datblygu gwasanaethau Cymraeg maen nhw’n cael eu torri – mae HSBC wedi cau llinell ffôn Gymraeg yn ddiweddar er enghraifft.
“Mae’n ofnadwy bod Toni Schiavone yn dal i gael ei erlyn drwy’r llysoedd gan gwmni One Parking Solutions, am iddo wrthod talu hysbysiad parcio uniaith Saesneg.
“Mae’n well gan y cwmni parcio yma fynd trwy broses gyfreithiol ac erlyn aelodau o’r cyhoedd yn hytrach na defnyddio ychydig o Gymraeg ar arwyddion a ffurflenni.
“Y wers hollol amlwg sydd angen i’r Gweinidog ddysgu yw nad yw dibynnu ar ewyllys da yn ddigon.”
Galw am gryfhau a gwella’r broses gwyno
Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am gryfhau a gwella’r broses gwyno ac am well canlyniad i’r cwynion hynny.
“Mae trefn reoleiddio a monitro yn hollbwysig – mae nifer y cwynion am wasanaethau Trafnidiaeth Cymru a’r Llywodraeth ei hun yn dangos hynny,” meddai Siân Howys.
“Ond mae angen symleiddio a gwella’r broses ar gyfer yr achwynydd.
“Dydy pobol ddim yn cwyno yn gyffredinol, am fod y broses yn un hir ac yn rhoi baich ar yr unigolyn i brofi bod Safonau wedi eu torri, tra gall sefydliadau roi esgusodion a mynnu na fydd yr un peth yn digwydd eto, heb fod canlyniadau na sicrwydd o hynny.
“Os mai bwriad y Safonau yw cynyddu defnydd o’r Gymraeg, mae angen sicrhau hawliau clir trwy broses fonitro gadarn.
“Rhan allweddol o sicrhau bod gwasanaethau llinell flaen ar gael yn Gymraeg yw cyflogi a hyfforddi staff sy’n gallu gweithio trwy’r Gymraeg.
“Mae adroddiad blynyddol cydymffurfio â’r Safonau y Llywodraeth ei hun yn dangos mor isel yw’r nifer o staff sydd â sgiliau Cymraeg uwch na’r lefel mwyaf sylfaenol.
“Mae gwaith gan y Llywodraeth i’w wneud felly ac mae angen i’r Gweinidog weithredu’n gadarn yn y maes.”